Galw am wirfoddolwyr i ymuno â'n grŵp ffocws 'gwella gwefan'

09 Tachwedd 2020
  • Rydym yn bwriadu rhedeg grŵp ffocws, i gyd-fynd â mathau eraill o ymchwil, i'n helpu i wella ein gwefan.

    Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y mewnbwn y gall defnyddwyr ein gwefan ei ddarparu, ynghyd â darllenwyr ein hadroddiadau archwilio.
    Mae'n golygu bod unrhyw newidiadau a wnawn yn wybodus ac wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion ein cynulleidfaoedd – aelodau o'r cyhoedd, y sefydliadau yr ydym yn eu harchwilio a phobl eraill sydd â diddordeb yn ein gwaith.

    Am y grŵp ffocws

    Trafodaeth anffurfiol am bwnc penodol o fewn grŵp bach o bobl yw grŵp ffocws. Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau er mwyn hwyluso’r drafodaeth.
    Cynhelir y sesiwn yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd – 24, Heol y Gadeirlan, CF11 9LJ – ac ni ddisgwylir iddi gymryd mwy na 2 awr.
    Er na allwn dalu am eich amser na’ch teithio, byddwn yn darparu lluniaeth.
    Bydd yn recordio sain yn y sesiwn a byddwn yn cymryd nodiadau. Nid yw'n fwriad gennym gysylltu  sylwadau ag  unigolion, ond efallai y byddwn yn defnyddio rhai o'r sylwadau a gasglwn i ddangos yr adborth a gasglwn yn y grŵp ffocws. Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn dweud wrthych sut mae Swyddfa Archwilio Cymru yn prosesu data personol [PDF 118KN agorir mewn ffenest newydd].

    Ymchwil arall

    Rydym hefyd yn cynnal mathau eraill o ymchwil a phrofion defnyddiwr. Gwneir rhywfaint o hyn drwy ddefnyddio offer ar-lein neu dros y ffôn, felly gellir ei gwblhau ble bynnag. Efallai y byddai'n well gennych ein helpu fel hyn.
    Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o'n grŵp ffocws neu ein helpu i wella ein gwefan  mewn ffyrdd eraill, anfonwch e-bost at egyfathrebu@archwilio.cymru, neu cysylltwch â Louise Foster-Key dros y ffôn ar 029 2032 0500.