Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Rydyn ni wedi cyhoeddi arolwg dewis iaith yn gofyn i’r cyrff rydym yn eu harchwilio i ddatgan ym mha iaith y byddai'n well ganddynt dderbyn dogfennau a gwasanaethau oddi wrthym ni.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog ac yn ymfalchïo yn hynny. Er mwyn darparu ein gwasanaethau mor effeithiol ac effeithlon â phosib, mae'n bwysig bod ein data ar ddewis iaith sefydliadau yn gyfredol. Fel sefydliad dwyieithog, ein nod bob amser yw cynnig dewis iaith i’n cleientiaid a’r cyhoedd. Mae’r arolwg hwn, sy’n cael ei gynnal bob tair blynedd, yn rhan bwysig o'n Cynllun Iaith Gymraeg a byddwn yn annog y cyrff rydyn ni’n eu harchwilio i wneud eu hanghenion yn hysbys drwy gwblhau ein harolwg.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog ac yn ymfalchïo yn hynny. Er mwyn darparu ein gwasanaethau mor effeithiol ac effeithlon â phosib, mae'n bwysig bod ein data ar ddewis iaith sefydliadau yn gyfredol.
Fel sefydliad dwyieithog, ein nod bob amser yw cynnig dewis iaith i’n cleientiaid a’r cyhoedd. Mae’r arolwg hwn, sy’n cael ei gynnal bob tair blynedd, yn rhan bwysig o'n Cynllun Iaith Gymraeg a byddwn yn annog y cyrff rydyn ni’n eu harchwilio i wneud eu hanghenion yn hysbys drwy gwblhau ein harolwg.
Mae'r wybodaeth yn ein helpu i ddiwallu anghenion ieithyddol sefydliadau drwy ein galluogi i gynllunio ein gweithlu yn effeithiol a datblygu ein mentrau recriwtio a hyfforddi ymhellach.
Am fwy o wybodaeth ar ein dull a'n hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog, ewch i dudalen Y Gymraeg.