Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Llamu Ymlaen - Defnyddio profiadau uniongyrchol er mwyn adeiladu dyfodol cydnerth

17 Tachwedd 2021
  • Ymunwch â ni yn ein digwyddiad ar Ragfyr 9

    Does ‘na’r un cynllun yn goroesi’r cyfarfyddiad cyntaf gyda’r byd go iawn fel y mae, ond meddyliwch am y byd heddiw o’i gymharu â Hydref 2019. Mae’r normalrwydd a oedd yn cael ei gymryd yn ganiataol wedi ei newid gan ledaeniad chwim Covid-19 ar draws y byd. 

    Mae’n debyg fod y cyfeiriadau strategol a oedd yn ymddangos yn iawn cyn dyfodiad Covid-19 wedi newid yn llwyr bellach, ond gall rhai eraill edrych yn syndod o debyg i’r hyn a fu.

    Mae’r digwyddiad yma yn cyd-fynd â’n hadolygiad Camu Ymlaen gan archwilio sut mae posib defnyddio profiadau uniongyrchol i adeiladu cydnerthedd i’r dyfodol.

    Bydd ein hadolygiad yn edrych ar y modd mae cynghorau wedi trawsffurfio, addasu a chynnal eu gwasanaethau. Bydd pwyslais yr adolygiad ar eu dulliau strategol ar gyfer darparu eu gwasanaethau yn y tymor byr a’r tymor hirach.

    Wrth i Covid-19 barhau i gael effaith, yn wyneb newid hinsawdd a’r cyfleoedd sy’n codi o drawsffurfio digidol, sut mae esblygu sefydliadau gwydn sydd yn defnyddio eu hadnoddau yn y modd mwyaf effeithiol gan addasu mewn ymateb i’r heriau sydd heb ddod i’r amlwg eto?

    Ymunwch a ni am 2:00y.h, dydd Iau 9 Rhagfyr ar gyfer sesiwn arbennig; archwiliad o natur gwydnwch yn y byd sydd ohoni, gyda gwestai arbennig â’u profiad uniongyrchol i chwilio am belydrau goleuni ymysg y cymylau duon.

    I gofrestru ar gyfer y gweminar, llenwch ein ffurflen cadw lle ar-lein.