Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mwy o wariant trwy’r Gronfa Teithio Llesol ond nid yw’r prif gyfraddau teithio llesol wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf
Mae ‘teithio llesol’ yn disgrifio cerdded a beicio, ar y cyd o bosibl â thrafnidiaeth gyhoeddus, ar gyfer teithiau pob dydd megis i weithle neu ysgol neu oddi yno, neu er mwyn defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau iechyd, hamdden neu wasanaethau a chyfleusterau eraill. Fe wahaniaethir rhyngddo a cherdded a beicio at ddibenion hamdden yn unig. Nod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 [agorir mewn ffenest newydd] yw cynyddu cyfraddau teithio llesol ac mae’n gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £65 miliwn i’w mentrau teithio llesol allweddol yn 2024-25, a’r Gronfa Teithio Llesol yw’r elfen fwyaf. Fodd bynnag, nid yw’r darlun llawnach o ran gwariant gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ehangach ar deithio llesol yn eglur.
Mae’r Gronfa Teithio Llesol, a sefydlwyd yn 2018, yn helpu awdurdodau lleol i ddatblygu a chyflawni gwelliannau i seilwaith teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig. Fe wnaeth gwariant blynyddol o’r Gronfa Teithio Llesol neu gronfa gyfatebol gan awdurdodau lleol gynyddu’n sylweddol rhwng 2018-19 a 2023-24, o £20 miliwn i £46 miliwn. Roedd cyfanswm y gwariant ar gyfer y cyfnod yn £218 miliwn.
Er gwaethaf y gwariant uwch yma, a chynllun cyflawni [agorir mewn ffenest newydd] eang newydd, mae Llywodraeth Cymru’n dal i fod ymhell o gyflawni’r newid sylweddol mewn teithio llesol y bwriadwyd ei ysgogi trwy’r Ddeddf. Mae’r wybodaeth gyfyngedig sydd ar gael yn awgrymu nad yw cyfraddau teithio llesol wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf, gyda'r prif gyfraddau cerdded islaw’r lefelau cyn y pandemig. Yn 2022-23, dywedodd 51% o bobl eu bod yn cerdded o leiaf unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol a dywedodd 6% eu bod yn beicio. Mae’r ffigwr ar gyfer cerdded yn cymharu â 60% yn 2019-20 tra bo cyfraddau beicio wedi aros yn llonydd at ei gilydd.
Mae’r adroddiad yn amlygu amryw faterion a meysydd i’w gwella, gan gynnwys o ran gosod targedau, i ba raddau y mae teithio llesol wedi cael ei integreiddio ar draws polisïau a rhaglenni ehangach ac wedi cael ei flaenoriaethu’n lleol, trefniadau arwain cenedlaethol, materion o ran capasiti mewn awdurdodau lleol, a’r dull o gyllido a’r modd y caiff cyllid ei flaenoriaethu. Mae hefyd yn pwysleisio nad yw adeiladu seilwaith ffisegol wedi cael ei ategu gan ffocws digon cryf ar godi ymwybyddiaeth a newid ymddygiad.
Ochr yn ochr â hyn, nid yw dulliau monitro a gwerthuso’n mynd yn ddigon pell ar hyn o bryd i’w gwneud yn bosibl tracio cynnydd yn gadarn na chwblhau asesiad ar y cyfan o werth am arian. Nid yw gofynion adrodd y Ddeddf yn cael eu hateb yn gyson ac mae Llywodraeth Cymru’n hwyr yn adolygu’r Ddeddf. Mae’r adroddiad yn pwysleisio ei bod yn bwysig bod Llywodraeth Cymru’n mynd ati yn awr gyda’i phartneriaid i weithredu’r cynllun cyflawni newydd. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar fframwaith monitro a gwerthuso newydd a fframwaith asesu a chyllido newydd i roi cymorth i gyflawni.
Mae angen i Lywodraeth Cymru fyfyrio ynghylch pam, mewn mwy na degawd, nad yw’r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) a’r trefniadau i roi cymorth i gyflawni wedi cael yr effaith a ddymunir eto. Mae ffactorau amrywiol yn dylanwadu ar ymddygiad teithio llesol ar draws ystod o feysydd polisi. Mae pwysigrwydd gallu profi gwerth am arian trwy drefniadau cryfach ar gyfer monitro, gwerthuso ac adrodd, yn adlewyrchu thema sy’n codi dro ar ôl tro o’m gwaith archwilio ehangach. Heb dystiolaeth ategol well, y risg yw y gallai gwneud mwy o’r un peth, gan gynnwys o ran sut y mae cyllid yn cael ei flaenoriaethu, yn syml ddwyn yr un canlyniadau.