Ymunwch â'n tîm: Eich cyfle i arwain ym maes iechyd a diogelwch yn Archwilio Cymru!

23 Tachwedd 2023
  • Ydych chi'n chwilio am her newydd? Edrychwch ddim pellach, gallai rôl ein Uwch Swyddog Iechyd, Diogelwch a Chyfleusterau fod yn iawn i chi.

    Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â gwybodaeth gref am Iechyd a Diogelwch i fod yn arweinydd y sefydliad ar gyfer Iechyd a Diogelwch.

    Mae Archwilio Cymru yn awyddus i recriwtio Uwch Swyddog Iechyd, Diogelwch a Chyfleusterau Mae'r swydd yn cynnwys ategu ein strategaeth ystadau a rheoli asedau, arwain a chymryd rhan mewn prosiectau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch a chyfleusterau, datblygu polisïau a chanllaw perthnasol a goruchwylio ein gwaith cynnal a chadw ataliol arfaethedig a'n rhwymedigaethau dyletswydd gofal. 

    Mae hwn yn gyfle cyffrous ac mae ein gwerthoedd a'n hymddygiadau craidd wrth wraidd popeth a wnawn, felly rydym yn chwilio am rywun sydd o blaid gwneud gwahaniaeth i'r sector cyhoeddus.

    Mae Iechyd a Diogelwch wedi'i wreiddio yn y ffordd y mae Archwilio Cymru'n gweithio, ar draws ein tri phrif leoliad swyddfa ledled Cymru, ein dull hybrid o weithio, wrth weithio mewn safleoedd cleientiaid a phan fydd unigolion yn ymgymryd â gwaith ar eu pennau eu hunain.  

    Pam ymuno ag Archwilio Cymru?

    Mae Archwilio Cymru yn lle gweithgar a chyfeillgar i weithio ynddo, gyda diwylliant hynod gefnogol. Mae gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol yn hollbwysig inni.

    Yn Archwilio Cymru rydym yn gofalu am ein pobl ac yn cynnig manteision gweithio hael sy'n darparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.

    Rydym yn hyblyg – Rydym yn gweithio'n Gallach. Rydym yn cynnig Telerau Rhagorol gan gynnwys wythnos waith 35 awr, a 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus).

    Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl ac o blaid datblygiad personol a phroffesiynol. Rydym yn cynnig cyfle i bob gweithiwr ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i'r gwaith, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd drwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy.

    Rydym yn Falch o gael Achrediad – Rydym yn gyflogwr ‘Working Families’ a ‘Change 100’ balch ac rydym wedi llwydo i gael achrediad Cyflog Byw.

    Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y maent yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu y byddwn yn cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.

    Os yw'r cyfle hwn yn swnio'n gyffrous i chi, gallwch gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais drwy ein gwefan.