Cyfarwyddwyr

Richard Harries

Example image

Ganwyd Richard yng Nghwm-gwrach, sef pentref bach yng Nghwm Nedd. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Llangatwg cyn mynd i Goleg Trydyddol Castell-nedd ac yna i Brifysgol Caerdydd i gwblhau ei radd.

Yn 1992, enillodd radd Cyd-anrhydedd mewn Economeg a Chyfrifyddu.

Yn 1993, ymunodd Richard â'r Gwasanaeth Archwilio Dosbarth fel archwilydd dan hyfforddiant a daeth yn aelod o Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) yn 1997. Mae wedi gweld sawl newid o ran archwiliadau sector cyhoeddus yng Nghymru, yn gyntaf gyda'r Gwasanaeth Archwilio Dosbarth, yna'r Comisiwn Archwilio yng Nghymru ac, ers 2005, gyda Swyddfa Archwilio Cymru. 

Mae Richard yn Gyfarwyddwr Archwilio Ariannol, ac mae ganddo bortffolio amrywiol o archwiliadau ar draws Cymru gyfan gan gynnwys llywodraeth ganolog, llywodraeth leol a'r GIG. Ef hefyd yw arweinydd archwiliadau Ewropeaidd Swyddfa Archwilio Cymru, ac mae'n gyfrifol am archwilio gwaith cronfeydd amaethyddol yr UE, gan weithio'n agos gydag asiantaethau archwilio eraill yn y DU. Mae Richard yn aelod gweithgar o'r Uwch Dîm Arwain yn Swyddfa Archwilio Cymru ac yn arwain sawl menter gorfforaethol, gan gynnwys arwain yr agenda Cydraddoldebau o fewn yr adran Archwilio Ariannol.

Y tu allan i'r gwaith, mae Richard yn gefnogwr chwaraeon brwd. Mae'n cymryd rhan mewn sawl taith feic ledled Cymru i godi arian i elusen. Mae hefyd yn helpu i hyfforddi tîm pêl-droed iau lleol. Mae Richard yn briod ac mae ganddo deulu ifanc sy'n ei gadw'n brysur iawn, a dyna pam mae'n ceisio cadw'n heini a gweithgar!