Gweithio gyda'n gilydd i ddarparu cyfrifon llywodraeth leol amserol ac o ansawdd - De Cymru Mae adrodd ariannol cywir a thryloyw yn hanfodol ar gyfer atebolrwydd, gwneud penderfyniadau gwybodus, cydymffurfio, ac adeiladu ymddiriedaeth. Mae hefyd yn darparu darlun clir o iechyd ariannol corff. Ar ben hynny, mae cyfrifon ariannol o ansawdd da yn sylfaenol i broses archwilio llyfn ac effeithiol.
Prentis Gwyddor Data Amdanom Ni: Archwilio Cymru yw corff archwilio'r sector cyhoeddus yng Nghymru, sy'n ymroddedig i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda. Rydym yn darparu sicrwydd annibynnol ac yn hyrwyddo gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru. Y Cyfle: Ydych chi'n cael eich sbarduno gan niferoedd, tueddiadau a graffiau? Oes gennych chi ddiddordeb mewn codio cyfrifiadurol? Hoffech chi gael y cyfle i ennill tra byddwch chi'n dysgu?