Offeryn Data Cyllid GIG Cymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mwy am ein hofferyn data

Cymerwyd y data a ddefnyddir yn yr offeryn o gyllidebau Llywodraeth Cymru, datganiadau ariannol gan gyrff y GIG a archwiliwyd yn annibynnol ac o gyflwyniadau data ariannol misol gan gyrff y GIG i Lywodraeth Cymru.

Mae ein dull data'n dangos cyllid saith bwrdd iechyd, tair ymddiriedolaeth GIG, a dau awdurdod iechyd strategol yng Nghymru.

Mae ein hofferyn rhyngweithiol yn eich galluogi i edrych ar dueddiadau yng nghyllid y GIG hyd at 31 Mawrth 2023 ar gyfer Cymru gyfan ac ar gyrff iechyd unigol.

Cynaliadwyedd Ariannol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Rydym yn cyhoeddi'r data hwn wedi gwaith cenedlaethol a lleol a wnaed gennym yn ystod 2020-21. 

Gobeithiwn y bydd yr offeryn yn helpu i adrodd peth o stori cyllid llywodraeth leol ac yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd am ddeall ychydig mwy am sefyllfa cyrff unigol a'r sector llywodraeth leol yn gyffredinol. 

Dyma'r tro cyntaf i ni gasglu'r data hwn o gyfrifon, a byddwn yn parhau i ddiweddaru'r offeryn ar ôl cwblhau ein gwaith archwilio cyfrifon bob blwyddyn.

Offeryn data ar Dlodi yng Nghymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae ein hofferyn rhyngweithiol yn cyd-fynd â'n hadroddiad: Amser am Newid– Tlodi yng Nghymru, drwy ganiatáu i chi archwilio rhywfaint o'r data sydd yn yr adroddiad yn fanylach.

Mae'r offeryn yn dod ag ystod o ddata ynghyd i helpu cynghorau a'u partneriaid i wella sut maent yn darparu gwasanaethau i bobl sydd mewn tlodi.

Mae'r data wedi ei rannu i saith dimensiwn tlodi: