Buddion Cyffredin: Creu Cydweithrediad Rhwng Cymru a Gwlad y Basg Os ydych, dewch i ddysgu o brofiadau Gwlad y Basg (Gogledd Ddwyrain Sbaen), sy'n cael ei gydnabod yn gyffredinol fel rhanbarth dynamig a llwyddiannus. Pan fyddwch yn ystyried unrhyw un o saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Gwlad y Basg yn dangos arferion sydd o ddiddordeb ac sy'n berthnasol i Gymru. Mae rhan o lwyddiant profiad Gwlad y Basg yn gysylltiedig â'r ffordd maent yn trefnu eu cymdeithas, sy'n cynnwys ffocws ar; arloesedd, eu cystadleurwydd fel rhanbarth, entrepreneuriaeth gymdeithasol ac ymddygiadau cydweithredol.
A all yr economi gymdeithasol ein hachub? A hoffech ddysgu mwy am y ffordd y gall cymunedau elwa ar yr economi gymdeithasol, ond na allwch ddod i'n cynhadledd diwrnod llawn? Rydym yn cynnal gweminar fyw â chynulleidfa gyda Chris Bolton (rheolwr Cyfnewidfa Arfer Da, @whatsthepont [agorir mewn ffenest newydd]), mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru. Mae croeso i chi ddod i'r gynhadledd neu wrando o bell drwy ein dolen fyw.