Chris Bolton

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Dechreuodd ei yrfa archwilio yn wreiddiol gydag Archwilio Rhanbarth ar ôl gweithio yn flaenorol mewn rheoleiddio a gwella amgylcheddol i Gwmnïau Dŵr, yr Awdurdod Afonydd Cenedlaethol ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae'n wyddonydd yn ôl cefndir ar ôl astudio yn Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd. Mae ganddo hefyd nifer o gymwysterau ôl-raddedig mewn rheoli ac arweinyddiaeth.

Dyfodol Gwaith: Rhannu profiadau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Symudodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda grwpiau o staff i Ganolfannau Gofal Integredig Hywel Dda yn Aberaeron ac Aberteifi. Yn dilyn y symud, gwahoddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yr Anthropolegydd Dr Luci Attala o’r Drindod Dewi Sant i gynnal astudiaeth i edrych ar sut mae gweithwyr wedi negodi'r newid o weithleoedd traddodiadol i amgylchedd desg boeth cynllun agored mewn meysydd anghlinigol.

Rhan 2 - Eich Tref, Eich Dyfodol - Adfywio Canol Trefi

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Bydd y digwyddiad yn rhannu canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad, yn ogystal â chynnig syniadau ar ffyrdd all trefi ddadansoddi eu sefyllfa bresennol er mwyn ffurfio eu dyfodol.

Hefyd bydd yr Athro Karel Williams o Brifysgol Manceinion, economegydd sydd wedi gwneud ymchwil ar yr economi sylfaenol yn rhannu canfyddiadau ei adolygiad diweddar o dair tref yng Nghymru. Bydd Ian Williams o Lywodraeth Cymru hefyd yn dychwelyd er mwyn rhannu ei safbwynt a’i ymateb i adroddiad yr astudiaeth.