Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Bydd y cwricwlwm yn gwyro'n sylweddol oddi wrth yr un blaenorol drwy ganiatáu hyblygrwydd i bob ysgol ddatblygu ei chwricwlwm ei hun yn unol ag anghenion lleol.

    Mae'r cwricwlwm newydd wedi bod yn cael ei ddatblygu ers 2015. Ein nod oedd rhoi sicrwydd bod y broses weithredu ar y trywydd iawn yng nghyd-destun y cynlluniau diwygiedig a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2021.

    Bydd pob ysgol gynradd yn addysgu'r cwricwlwm newydd o fis Medi 2022, ac mae bron i hanner yr ysgolion uwchradd, canol ac arbennig yn bwriadu cyflwyno'r cwricwlwm newydd ym mis Medi.

    Beth wnaethom ddarganfod?

    Gwelsom fod Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n dda gyda'r proffesiwn addysg i gyd-gynllunio'r cwricwlwm newydd. Fodd bynnag, datblygwyd y cwricwlwm i ddechrau heb asesu'r costau tebygol.

    Mae'r cyllidebau presennol yn awgrymu y gallai gwariant uniongyrchol fod ar ben uchaf amcangyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021, neu'n fwy na hynny.

    Mae ein hadroddiad yn gwneud 6 argymhelliad i Lywodraeth Cymru i helpu i sicrhau bod y Cwricwlwm newydd i Gymru yn cyflawni ei effaith arfaethedig ac yn rhoi gwerth am arian.

    Rydym hefyd yn tynnu sylw at 5 risg allweddol y bydd angen i Lywodraeth Cymru barhau i'w rheoli.

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Mae angen gwaith i wireddu manteision hirdymor a thracio costau parhaus y Cwricwlwm newydd i Gymru

    View more
CAPTCHA