
Tîm Gwasanaethau Busnes
Mae ein tîm Gwasanaethau Busnes yn cynnwys ystod eang o swyddogaethau, o gaffael, cyfleusterau, iechyd a diogelwch, rheoli cofnodion a rheolaeth amgylcheddol hyd at gymorth gweinyddol cyffredinol.

Tîm y Gyfraith a Moeseg
Mae tîm y Gyfraith a Moeseg yn rhoi cyngor ar faterion cyfreithiol a pholisi i Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.
Tîm cyllid
Mae'r tîm Cyllid yn gyfrifol am ystod o swyddogaethau ariannol megis cynhyrchu'r cyfrifon blynyddol ac yn gweithio'n agos gydag archwilwyr mewnol ac allanol.
Tîm Adnoddau Dynol
Mae ein tîm AD yn cynnig cyngor a chefnogaeth i reolwyr a staff ar faterion amrywiol, yn ogystal â chefnogi iechyd a lles y staff