Cyfathrebu a Newid

Mae’r tîm Cyfathrebu yn gyfrifol am lunio a chyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu ac ymgysylltu ar draws y busnes ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad i sicrhau bod ein hadroddiadau'n cael eu cyflwyno a'u cyfleu'n effeithiol.

Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad i sicrhau bod ein hadroddiadau'n cael eu cyflwyno a'u cyfathrebu'n effeithiol.

Tîm cyfathrebu

Mae’r tîm Cyfathrebu yn gyfrifol am lunio a chyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu ac ymgysylltu ar draws y busnes ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad i sicrhau bod ein hadroddiadau'n cael eu cyflwyno a'u cyfleu'n effeithiol.

Tîm y Gyfnewidfa Arfer Da (GPX)

Tîm y Gyfnewidfa Arfer Da (GPX) sy'n casglu ac yn rhannu gwybodaeth ac arferion gorau ac arloesol i gefnogi'r sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn darparu gwasanaethau gwell.

Y Tîm Newid

Mae'r Tîm Newid yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws Archwilio Cymru i nodi, llunio a chyflawni'r newidiadau sefydliadol sy’n ofynnol er mwyn gwireddu’n huchelgeisiau strategol.

Y tîm Cynllunio ac Adrodd

Mae'r tîm Cynllunio ac Adrodd yn gyfrifol am reoli'r gwaith o baratoi ystod o ddogfennau corfforaethol, gan gynnwys y cynllun blynyddol, sy'n ymgorffori ein gweledigaeth gorfforaethol, ein blaenoriaethau strategol, a’n dangosyddion perfformiad allweddol.