Pwyllgorau Archwilio: arferion effeithiol ac effaith gadarnhaol

13 Awst 2024
Hyd 09 Dydd Mercher
10:00
15:30
  • Conwy Business Centre
  • Junction Way
  • Llandudno
  • LL31 9XX
Conwy Business Centre

About Pwyllgorau Archwilio: arferion effeithiol ac effaith gadarnhaol

  • Mae trefniadau llywodraethu da yn rhan hanfodol o'r ffordd mae sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu yn effeithiol ac yn darparu gwasanaethau sydd yn rhoi gwerth am arian ar gyfer pobl a chymunedau Cymru.

    Mae Pwyllgorau Archwilio yn gonglfeini er mwyn cefnogi llywodraethu da. Gyda phwysau mawr ar gyllid y sector gyhoeddus ar hyn o bryd ac wrth edrych tua’r dyfodol, mae mwy o angen am arferion effeithiol a chael effaith gadarnhaol. Mae gan Bwyllgorau Archwilio rôl allweddol wrth gyflawni hyn.

    Mae’r digwyddiad yma yn gyfle i rannu profiadau, dysgu a rhwydweithio gyda chyfoedion ar draws y sector gyhoeddus yng Nghymru.

    Cysylltu â’r Gyfnewidfa Arfer Da

    I gofrestru, llenwch ein ffurflen archebu ar-lein. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd i gynrychiolwyr [agorir mewn ffenest newydd], gan ddweud wrthych sut rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses ymrestru.

    Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno mewn da bryd cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle i sicrhau y gallwn anfon manylion atoch.

    Am fwy o fanylion am y digwyddiad, anfonwch e-bost at arferda@archwilio.cymru

     

What to expect

  • Gellir dod o hyd i'r agenda lawn isod.

Agenda

10:
00
Lluniaeth a Chofrestru
10:
30
Croeso
10:
35
Prif Siaradwr

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru

10:
40
Sut allwn ni atal methiant?

Paul Dossett, Pennaeth Llywodraeth Leol, Grant Thornton

Paul yw awdur ‘Preventing failure in Local Government’. Bydd yn trafod pwysigrwydd bod â dealltwriaeth glir o achosion cyffredin methiannau, yn ogystal a sut mae’n yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i awdurdodau lleol eraill, cyrff llywodraeth leol ac ar gyfer llywodraeth ganolog er mwyn atal methiannau i’r dyfodol

11:
20
Egwyl
11:
30
Gweithdy: Sut mae da yn edrych wrth ystyried pwyllgorau archwilio?

Cyfle i rannu ac i ddysgu gan gyfoedion mewn grwpiau dysgu bychain, gan drafod y cwestiwn ‘sut mae da yn edrych wrth ystyried pwyllgorau archwilio?’

12:
30
Cinio
13:
30
Gweithdy: Dadansoddiad Gwraidd: Beth yw dadansoddiad gwraidd a sut mae’n gweithio?

Tîm ymchwil a Datblygu, Archwilio Cymru

Dadansoddiad Gwraidd yw’r broses o ganfod yr hyn sydd wrth wraidd problemau er mwyn adnabod atebion addas. Bydd ein tîm Ymchwil a Datblygu yn eich tywys trwy astudiaeth achos fel enghraifft (Tramiau Caeredin) fydd yn galluogi’r rhai sydd yn cymryd rhan i ennill profiad o ddefnyddio’r dull Dadansoddi Gwraidd.

14:
40
Egwyl
14:
50
Trafodaeth Banel

Trafodaeth banel wedi ei gadeirio gan Ann-Marie Harkin, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio, Archwilio Cymru. Bydd ein panel yn adlewyrchu ar brif themâu’r diwrnod gan roi sylw arbennig i’r heriau mawr sydd ar y gorwel. Hefyd, bydd cyfle i ofyn cwestiynau a chynnal trafodaeth.

15:
30
Clo
  • 53.28308, -3.807344

Speakers for the event

Ym mis Mawrth 2018, cafodd Adrian ei argymell gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i'w benodi'n Archwilydd Cyffredinol Cymru ac fe'i penodwyd yn ffurfiol i'r swydd gan EM Y Frenhines o 21 Gorffennaf 2018. 

Fel Archwilydd Cyffredinol Cymru a Phrif Weithredwr Archwilio Cymru, mae'n arwain sefydliad o tua 270 o staff sy'n archwilio gwariant a pherfformiad y rhan fwyaf o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Fel pennaeth Swyddfa Archwilio Cymru, bydd yn goruchwylio gwaith archwilio oddeutu £24 biliwn o arian trethdalwyr ac fe'i penodwyd am dymor o wyth mlynedd.

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru
Keynote speaker

Mae Jo yn uwch reolwr yn nhîm Archwilio Sector Cyhoeddus Grant Thornton, gyda mwy nag ugain mlynedd o brofiad ar draws llywodraeth leol a chanolog. Mae Jo yn arwain ar fewnwelediadau gwerth am arian llywodraeth leol Grant Thornton ac mae ei meysydd diddordeb arbennig yn cynnwys gwasanaethau oedolion a phlant; adenedigaeth; cludiant; cyfleustodau; sero net; a chaffael.

Joanne Taylor, Grant Thornton
Keynote speaker
Register for this event
About You
Name
In person event details