Angen newidiadau i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus er mwyn iddynt wireddu eu llawn botensial Darllen mwy about Angen newidiadau i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus er mwyn iddynt wireddu eu llawn botensial Mae’r 19 o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus newydd – a sefydlwyd yng Nghymru i wella llesiant cymunedau – yn annhebygol o wireddu eu potensial oni bai bod newidiadau’n cael eu cyflwyno. Mae adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw (8 Hydref 2019) gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn galw arnynt i weithio’n fwy hyblyg ac i feddwl a gweithredu’n wahanol.
Lansiwch yrfa sy’n cyfrif Darllen mwy about Lansiwch yrfa sy’n cyfrif Oes gennych chi ddiddordeb mewn sut mae arian yn cael ei wario? Ydych chi am helpu i gefnogi gwella gwasanaethau cyhoeddus? Ydych chi eisiau gyrfa sy'n cyfrif? Os felly, efallai mai bod yn hyfforddai graddedig yn Swyddfa Archwilio Cymru yw’r cyfle perffaith i chi.
Llai o aelwydydd mewn tlodi tanwydd ond Llywodraeth Cymru yn methu â chyrraedd ei thargedau Darllen mwy about Llai o aelwydydd mewn tlodi tanwydd ond Llywodraeth Cymru yn methu â chyrraedd ei thargedau Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd ei thargedau ar gyfer dileu tlodi tanwydd er bod ei chamau gweithredu i’w gweld fel pe baent wedi cyfrannu at ei leihau. Dyna un o brif negeseuon adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Patrymau gwariant cyhoeddus ers datganoli ‘yn ddiddorol ac, o bosibl, yn annisgwyl’ Darllen mwy about Patrymau gwariant cyhoeddus ers datganoli ‘yn ddiddorol ac, o bosibl, yn annisgwyl’ Yn ystod degawd cyntaf datganoli, cynyddodd cyfanswm y gwariant cyhoeddus y pen yng Nghymru bron i 4% y flwyddyn mewn termau real. Yn sgil y cyni a gafwyd yn y sector cyhoeddus ar ôl hynny, gostyngodd y gwariant yn raddol. Pe bai patrwm y deng mlynedd gyntaf wedi parhau, byddai'r gwariant cyhoeddus y pen wedi bod oddeutu 40% yn uwch yn 2017-18 nag yr oedd. Cyflwynir yr holl ffigurau hyn mewn adroddiad ac offeryn data newydd a gyhoeddir heddiw.
Paratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit ‘heb gytundeb’ – diweddariad Darllen mwy about Paratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit ‘heb gytundeb’ – diweddariad Heddiw, ysgrifennodd Archwilydd Cyffredinol Cymru at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn rhoi ei sylwadau am y cynnydd a wnaed yn y misoedd diwethaf gan gyrff cyhoeddus datganoledig ledled Cymru wrth baratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit ‘heb gytundeb’. Yn dilyn ein hadroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni, dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton, mai’r heriau allweddol sy’n wynebu arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru yn awr yw:
Loteri cod post ar gyfer ‘drws blaen’ newydd i wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion Darllen mwy about Loteri cod post ar gyfer ‘drws blaen’ newydd i wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion
Ymunwch â’n tîm Cyfnewidfa Arfer Da Darllen mwy about Ymunwch â’n tîm Cyfnewidfa Arfer Da A oes gennych sgiliau rhyngbersonol gwych a brwdfrydedd dros wella gwasanaethau cyhoeddus? Yna fe allai swydd yn ein Tim Cyfnewidfa Arfer Da fod yr un i chithau.
Nid yw’r Gronfa Gofal Integredig yn gwireddu ei holl botensial hyd yma Darllen mwy about Nid yw’r Gronfa Gofal Integredig yn gwireddu ei holl botensial hyd yma Ers sefydlu'r gronfa, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfanswm o £270 miliwn hyd at fis Mawrth 2019 a dyrannu £115 miliwn pellach ar gyfer 2019-20. Mae’r adroddiad yn canfod bod y gronfa wedi cefnogi gwaith partneriaeth gwell. Ond, er gwaethaf rhai enghreifftiau cadarnhaol, nid yw ei heffaith gyffredinol o ran gwella canlyniadau defnyddwyr gwasanaethau’n glir o hyd.
Ymunwch â’n tîm Adnoddau Dynol Darllen mwy about Ymunwch â’n tîm Adnoddau Dynol Mae'n amser gwych i ymuno a'r tîm Adnoddau Dynol wrth i ni fynd drwy gyfnod cyffrous o newid a thrawsnewid.