Gwasanaethau cynllunio yn cael rhy ychydig o adnoddau ac yn tanberfformio Darllen mwy about Gwasanaethau cynllunio yn cael rhy ychydig o adnoddau ac yn tanberfformio
Lansiwch yrfa sy’n cyfrif Darllen mwy about Lansiwch yrfa sy’n cyfrif A ydych chi eisiau gyrfa sy'n cyfrif? A yw gwneud gwahaniaeth yn bwysig i chi? A oes gennych chi ddiddordeb mewn sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario yng Nghymru? Os ydych wedi ateb 'oes/ydy' i'r cwestiynau hyn i gyd, mae gennym gyfleoedd swyddi ar gael i chi! Rydym ni'n chwilio am Hyfforddeion Graddedig a Phrentisiaid Archwilio Ariannol.
Datgelu cynllun i wneud Swyddfa Archwilio Cymru yn fwy beiddgar ac yn fwy uchelgeisiol Darllen mwy about Datgelu cynllun i wneud Swyddfa Archwilio Cymru yn fwy beiddgar ac yn fwy uchelgeisiol Mae Archwilydd Cyffredinol newydd Cymru, Adrian Crompton, wedi amlinellu uchelgais newydd ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru – i wireddu ei photensial llawn ac i sbarduno gwelliannau. Bwriedir i'r Cynllun Blynyddol, a gyhoeddir heddiw ar y cyd â Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, wneud y sefydliad yn fwy beiddgar, yn fwy perthnasol ac yn fwy uchelgeisiol. Swyddfa Archwilio Cymru yw'r corff sy'n gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'n archwilio gwerth tua £19 biliwn o arian trethdalwyr; bron i draean o gynnyrch domestig gros (GDP) Cymru. Mae'n gwbl annibynnol ar y llywodraeth.
Rheoli Gwastraff yng Nghymru Darllen mwy about Rheoli Gwastraff yng Nghymru Uchelgais Cymru erbyn 2050 yw dim gwastraff. Mae rheoli gwastraff yn fater pwysig a chymhleth sy’n ymdrin ag amrywiaeth o ddulliau gweithredu gwahanol ond perthnasol.
Angen mwy o bwyslais ar atal gwastraff Darllen mwy about Angen mwy o bwyslais ar atal gwastraff Mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio mwy o'i sylw ac adnoddau ar ailgylchu yn hytrach nag ar atal gwastraff yn y lle cyntaf, a chynnydd cymysg a welwyd tuag at dargedau atal gwastraff. Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (21 Mawrth 2019) gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei dull gweithredu a dysgu o arferion y tu allan i Gymru.
Cynyddu'r paratoadau at Brexit 'heb gytundeb', ond mae'r darlun yn amrywio ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru Darllen mwy about Cynyddu'r paratoadau at Brexit 'heb gytundeb', ond mae'r darlun yn amrywio ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru Mae cynllunio at Brexit 'heb gytundeb' yn cael ei gymryd o ddifrif ledled Cymru ac mae nifer o gyrff cyhoeddus wedi cynyddu eu hymdrechion ers haf 2018, ond mae'r darlun yn amrywio ar draws y wlad. Dyna gasgliad adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Ynddo, mae'n amlinellu rhai negeseuon clir i holl gyrff cyhoeddus Cymru wrth iddynt fynd i'r afael â phrif heriau ac ansicrwydd Brexit.
Chwe cham tuag at graffu gwell yng Nghymru Darllen mwy about Chwe cham tuag at graffu gwell yng Nghymru Mae papur trafod a rhestr wirio chwe phwynt wedi'u paratoi ar gyfer cynghorau yng Nghymru er mwyn helpu i wella swyddogaethau trosolwg a chraffu. Mae cyhoeddiad heddiw dod â rhai themâu a materion cyffredin sydd wedi'u nodi yn ystod gwaith archwilio ar draws y 22 o awdurdodau lleol yn ystod 2017-18 at ei gilydd. Mae'r papur trafod yn tynnu sylw at chwe maes allweddol y gallai llawer o gynghorau fyfyrio arnynt yn sgil heriau'r presennol a'r dyfodol.
Diffygion o ran llywodraethu a rheoli ariannol mewn dau gyngor cymuned Darllen mwy about Diffygion o ran llywodraethu a rheoli ariannol mewn dau gyngor cymuned Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiadau er budd y cyhoedd sy'n amlygu diffygion o ran llywodraethu, rheoli ariannol a rheolaeth fewnol mewn dau gyngor cymuned – Bodorgan, a Llangristiolus a Cherrigceinwen. Nodwyd materion tebyg yn y ddau gyngor. Yn nodweddiadol, y rhain oedd:
Gwariant ar staff asiantaeth wedi “cynyddu’n sylweddol” dros y blynyddoedd diwethaf Darllen mwy about Gwariant ar staff asiantaeth wedi “cynyddu’n sylweddol” dros y blynyddoedd diwethaf Mae'r gwariant ar staff asiantaeth wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf – cynnydd o 171% dros saith mlynedd – yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae tua 80% o’r gwariant ar staff asiantaeth hyd yma yn 2018-19 yn cyflenwi ar gyfer swyddi gwag ac mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn ceisio lleihau’r galw am staff asiantaeth a’r pris a delir amdanynt.
Angen gwelliannau brys i drefniadau archwilio mewnol cynghorau tref a chymuned yng Nghymru Darllen mwy about Angen gwelliannau brys i drefniadau archwilio mewnol cynghorau tref a chymuned yng Nghymru Mae adolygiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi datgelu pryderon difrifol ynghylch y trefniadau archwilio mewnol mewn Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru. Er bod dyletswydd gyfreithiol ar Gynghorau Tref a Chymuned i sicrhau bod trefniadau archwilio mewnol digonol ac effeithiol ar waith, mae staff Swyddfa Archwilio Cymru wedi profi sampl ac wedi canfod: