Croesawu Cwynion: Cyfleoedd i wella eich sefydliad

Gwnaeth cynadleddwyr adael gyda dealltwriaeth o fanteision a phwysigrwydd croesawu cwynion a dysgu ganddynt er budd eu sefydliad yn y pen draw.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cwynion a phryderon ynglŷn â gwasanaethau datganoledig yng Nghymru. 

Yn dilyn cyflwyno ffioedd am ddod â hawliadau gerbron Tribiwnlysoedd Cyflogaeth, mae nifer yr hawliadau a gyflwynir gan gyflogeion wedi lleihau'n sylweddol, ac o ganlyniad mae cwynion gan staff, neu achwynion i fod yn fwy cywir, yn defnyddio mwy o adnoddau sefydliadol i ddelio â nhw. 

Fel arweinwyr Gwasanaethau Cyhoeddus, byddwch yn ymwybodol o'r newid sylweddol y mae gwasanaethau cyhoeddus wedi'i wynebu, ac y maent yn parhau i'w wynebu dros y blynyddoedd sydd i ddod. Ymhlith y rhain mae heriau amgylcheddol o ran y boblogaeth a newid yn yr hinsawdd, newidiadau mewn technoleg, a gostyngiadau parhaus mewn gwariant cyhoeddus. Mae angen i Wasanaethau Cyhoeddus hefyd ddelio â newidiadau sylweddol mewn deddfwriaeth, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a'r Bil Llywodraeth Leol arfaethedig. Bydd pwysau aruthrol ar adnoddau ac ni ellir tanamcangyfrif effaith hyn.

Yn ystod y fath newid, bydd arweinwyr yn wynebu penderfyniadau anodd na chânt eu gweld yn yr un modd bob amser gan aelodau o'r cyhoedd ac, yn wir, staff mewnol. Mae'n ddealladwy felly y gall anfodlonrwydd gael ei gyfleu neu y gall pryderon gael eu codi. 

Roedd y seminar hon yn canolbwyntio ar sut y gall sefydliadau baratoi ar gyfer y cyfnodau heriol sydd o'u blaenau, ac annog arweinwyr i feddwl am ddiwylliant ac ymddygiadau o fewn eu sefydliadau – a yw staff wedi'u grymuso i ymgysylltu ag achwynwyr yn gadarnhaol?  A yw eich staff a'ch defnyddwyr gwasanaethau yn teimlo bod ganddynt lais a bod pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif? A yw aelodau’r Bwrdd yn ymgysylltu â data ynglŷn â chwynion ac yn eu herio, ac a ydynt yn ceisio tystiolaeth bod gwelliannau wedi cael eu cyflwyno mewn achosion lle bu'r broses o ddarparu gwasanaethau yn wael?

Ar gyfer pwy oedd y seminar ar eu cyfer

Cafodd y seminar hon ei hanelu at staff sector cyhoeddus a thrydydd sector yn y swyddi canlynol: 

  • prif weithredwyr
  • aelodau bwrdd gwasanaethau cyhoeddus
  • penaethiaid llywodraethu 
  • aelodau anweithredol byrddau
  • aelodau craffu

Cyflwyniadau

  1. Croesawu Cwynion [PDF 906KB Agorir mewn ffenest newydd] - Nick Bennett, Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 
  2. Rheoli'r risgiau sy'n gysylltiedig ag ymchwilio i gwynion [PDF 785KB Agorir mewn ffenest newydd]- Ian Hughes, Swyddfa Archwiluo Cymru 
  3. Diwylliant cwynion [PDF 333KB Agorir mewn ffenest newydd] - James Forse/ David Jones, Acas Cymru
  4. Cwynion- yr anrheg sydd yn parhau i roi (a rhoi?) - Chris Vinestock, Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 
  5. Rhannu dulliau o ymdrin â chwynion [PDF 1.6MB Agorir mewn ffenest newydd] - Rory Farrelly/ Suzanne Holloway, Abertawe Bro Morgannwg University Health Board 

Cyfryngau cymdeithasol

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan