Rydyn ni wedi bod yn ymgysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) er mwyn meithrin dealltwriaeth o rôl archwilio wrth weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Fel rhan o'r ymgysylltu â CLlLC, cynhalion ni adolygiad o ba mor barod yw Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Rydym yn cydnabod y bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn heriol i gyrff cyhoeddus ac i archwilio cyhoeddus. Yn y seminar, fe wnaeth CLlLC gymryd y cyfle i rannu profiadau dysgu allweddol â'r sector cyhoeddus ehangach. Fe wnaethon ni, a Chyngor Sir Fynwy, ddefnyddio ein profiad i ymchwilio i’r modd y gall cyrff cyhoeddus baratoi ar gyfer yr heriau sy'n deillio o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn ogystal â manteisio ar y cyfleoedd y mae'n eu cynnig. Hefyd, fe wnaethon ni ddechrau sgwrs ynglŷn â sut gallai fod angen i archwilio cyhoeddus weithredu'n wahanol.
I bwy oedd y digwyddiad?
Pob corff cyhoeddus y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn effeithio arno.
Roedd y seminar hon ar gyfer rheolwyr a swyddogion y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn y meysydd canlynol:
- Polisi a pherfformiad
- Cynllunio corfforaethol
- Rheoli Risg
- Cynllunio'r gweithlu
- Rheoli Ariannol
- Caffael
- Rheoli Asedau
- Archwilio Mewnol
- Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus
Cyflwyniadau
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: Y daith hyd yma [PDF 754KB Agorir mewn ffenest newydd] - Hazel Clatworthy a Matthew Gatehouse, Cyngor Sir Fynwy
- Rhannu profiadau dysgu [PDF 488KB Agorir mewn ffenest newydd] - Neville Rookes a Tim Peppin, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Archwilio yn y dyfodol [PDF 1.7MB Agorir mewn ffenest newydd] - Mike Palmer a Alan Morris, Swyddfa Archwilio Cymru