Shared Learning Webinar
Gweminar Byw: Eich Tref, Eich Dyfodol – Adfywio Canol Trefi

Bydd y digwyddiad yma yn rhannu canfyddiadau cychwynnol o adolygiad Archwilio Cymru o adfywio canol trefi, yn ogystal a rhannu enghreifftiau o Gymru a thu hwnt.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae canol trefi wedi bod wrth wraidd cymdeithas yng Nghymru ers amser maith. Does dim ots o ble rydych chi'n dod a pha mor hên ydych chi, mae gan bob un ohonom atgofion da o ymweld â chanol ein trefi lleol.

Mae canol trefi wedi ac yn parhau i roi gwerth i gymunedau. Maen nhw wedi creu swyddi. Maent wedi rhoi lleoedd i ni wario arian, ymweld a chymdeithasu, yn fangre sydd yn ffurfio rhan o ein hymdeimlad o’n hunaniaeth.

Ond sut mae’r dyfodol yn edrych?

‘Rydym eisiau trafod yr heriau sydd yn wynebu canol ein trefi ar hyn o bryd, effaith COVID-19, twf siopa arlein a gweithio o bell yn ddigidol. Mae’n amlygu mor bwysig yw adfywio. Nid yn unig adfywio adeiladau ac isadeiledd, ond llesiant gymdeithasol, amgylcheddol, ddiwylliannol, iechyd ac economaidd y cymunedau sydd yn ymweld ac yn byw yn y trefi hyn. Gwelwn yr adolygiad yma fel cyfle i feddwl yn uchelgeisiol am ddyfodol ein trefi.

Gan ddilyn o’r arolwg arlein Eich Tref, Eich Dyfodol a’r ymchwil eang sydd wedi ei wneud gan y tim ymchwil, bydd y digwyddiad hwn yn cyflwyno’r themau a’r safbwyntiau o’u Gwaith hyd yma.

Bydd y digwyddiad hefyd yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n mynychu i gyfrannu eu safbwyntiau yn ystod y sesiwn. Bydd esiamplau wedi eu cynnwys hefyd er mwyn cynnau syniadau.

 

Sut ydw i'n cofrestru fy niddordeb?

Llenwch eich manylion ar y ffurflen gofrestru sydd ar ochr dde y dudalen yma os gwelwch yn dda. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd] i gynrychiolwyr, sy’n dweud wrthych chi sut rydym yn delio gyda’ch data personol fel rhan o’r broses gofrestru.  

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, anfonwch e-bost i Arfer.Da@archwilio.cymru

Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle er mwyn sicrhau ein bod yn gallu anfon gwybodaeth atoch.

You have no upcoming events
You have no upcoming events

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan

You have no upcoming events