Mae perthnasoedd yn allweddol er mwyn darparu’r gwasanaethau gorau posib, gan fod ffydd a hyder yn ei gilydd yn dod â staff a sefydliadau at ei gilydd. Clywodd pawb ag oedd yn bresennol am sut mae gwasanaethau wedi edrych y tu hwnt i fuddiannau a ffiniau sefydliadol a phroffesiynol er mwyn darparu gwasanaethau integredig i wella bywydau pobl.
Mewn cyfnod o gyni, mae’n rhaid i ni wneud y defnydd gorau posib o’r adnoddau sydd ar gael. Rhannodd y gweithdai dulliau amrywiol o weithredu i ddangos sut mae creadigrwydd a chwilfrydedd wedi cael eu ffrwyno a’u dathlu, nid eu llesteirio.
At bwy roedd y digwyddiad wedi'i anelu
Roedd seminar hon ar gyfer darparwyr gofal iechyd a chymdeithasol sy’n fentrau cymdeithasol, cymdeithasau tai, yn y trydydd sector neu’r sectorau cyhoeddus, preifat ac annibynnol sy’n gweithio yn y swyddi canlynol:
- Cyfarwyddwyr Meddygol
- Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol
- Penaethiaid gwasanaethau oedolion / plant
- Prif Weithredwyr
- Cyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio, Gofal Sylfaenol, Iechyd Meddwl Cymunedol, Gwasanaethau Clinigol, Cyllid ac Adnoddau Dynol
Cyflwyniadau
- Edrych i'r gorffennol er mwyn tyfu'r dyfodol [PDF 950KB Agorir mewn ffenest newydd] - Robin Miller, Prifysgol Birmingham
- Rhannu’r cyllideb, rhannu’r buddiannau [PDF650KB Agorir mewn ffenest newydd] - Kerry Wade, Emma Pike a Rachel Saunders, Prosiect Plant Coll Gwent
- Un Pwynt Cyswllt [PDF 580KB Agorir mewn ffenest newydd] - Jane Moore, Cyngor Sir y Fflint, Mel Evans, Cyngor Sir Ddinbych
- Gofal y GIG yw'r cyfan: Yr ansawdd sy'n bwysig, nid yr adeilad [PDF 940KB Agorir mewn ffenest newydd] - Anne Thomas, Linc Care