Shared Learning Webinar
Sgyrsiau Traws-Iwerydd - Theori Newid ar Fector gyda Dave Snowden

Sgyrsiau Traws-Iwerydd - Theori Newid ar Fector gyda Dave Snowden

 

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Gan ddilyn ein sesiwn ddiwethaf, a gan barhau gyda'r them o fesur mewn byd cymhlyg, bydd ein sesiwn nesaf yn trafod Theori Newid ar Fector gyda Dave Snowden. 

Pan mae achos ac effaith yn amhosib eu dirnad, ac wrth geisio ynysu problemau mae'r clymau a'r berthynas rhwng ffactorau yn dod yn amlycach, mae pethau'n troi'n gymhlyg. Bydd modelau newid llinol sydd yn canolbwyntio ar ganlyniadau yn cael trafferth bod yn effeithiol yn y fath gyd-destun; mae angen rhywbeth arall.

Ffordd o edrych ar newid trwy broses gylchol mewn systemau cymhlyg yw Theori newid ar Fector. Mae'r broses gylchol yn ein galluogi i weld cyfleon i gyflawni newid ystyrlon trwy ddeall yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, a sut mae'r system yn debygol o newid.

Mae cyflwyniad byr ond cynhwysfawr o Theori Newid ar Fector ar gael trwy ddilyn y ddolen yma [agor mewn ffenest newydd] (Saesneg yn unig).

 

Dave Snowden yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gwyddonol Cwmni Cynefin a Chyfarwyddwr Canolfan Cynefin. Mae ei waith yn rhyngwladol ei natur ac yn cwmpasu llywdoraethau a diwydiant gan edrych ar faterion cymhlyg mewn perthynas a strategaethau a gwneud penderfyniadau mewn sefydliadau. Mae wedi arloesi gyda chyfres o ddulliau o weithio gyda sefydliadau sydd â sail wyddonol iddynt gan gynnwys elfennau o anthropoleg, niwrowyddoniaeth a theori systemau cymhlyg-addasol.

Mae'n siaradwr gwadd poblogaidd ar nifer o byniau ac yn adnabyddus am ei ddull eiconoclastig â'i sinigaeth bragmatiadd.

Mae Dave wedi ei benodi'n Athro arbennig ym mhrifysgolion Pretoria a Stellenbosch, yn ogystal a bod yn Athro gwadd ym mhrifysgol Hull. Bu iddo hefyd gymryd rôl fel uwch gymrawd yn Sefydliad Amddiffyn ac Astudiaethau Strategol ym Mhrifysgol Nanyang a'r Coleg Gwasanaeth Sifil yn Singapore yn ystod cyfnod sabothol yn Nanyang.

Yn flaenorol bu iddo hefyd weithio yn IBM fel Cyfarwyddwr y Sefydliad Rheoli Gwybodaeth ac fel sylfaenodd Ganolfan Cynefin ar gyfer Cymhlygedd Sefydliadol.

Mae bywgraffiad lawn David ar gael yma trwy ddilyn y ddolen yma [agor y ffenest newydd] (Saesneg yn unig).

You have no upcoming events
You have no upcoming events

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan

You have no upcoming events