Shared Learning Seminar
Sut Mae Byrddau yn Deall Cydraddoldeb

Bydd y digwyddiad yma yn edrych ar ddealltwriaeth a rôl Byrddau wrth greu Cymru sy'n Fwy Cyfartal

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Sut mae dod a phenderfyniadau yn agosach i'r bobl maent yn eu heffeithio a sicrhau fod ein cymunedau oll yn medru cyfrannu eu mewnwelediad, gwybodaeth ac arbenigedd?

Meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn ddiweddar wrth ystyried arweinyddiaeth fod tri peth yn hanfodol; democrateiddio, amrywiaeth a dosbarthu gwneud penderfyniadau.

Beth am rolau'r rhai sy'n gyfrifol am graffu cyflenwi gwasanaethau? Sut maent yn gweld cydraddoldeb cyfleoedd a'r effaith mae'n bosib i'r bwrdd ei gael?

Mae gofyn i gyrff cyhoeddus yng Nghymru wneud Asesiad Effaith Cydraddoldeb wrth gyflwyno gwansanaeth, polisi neu gynnig newid. Mae Archwilio Cymru yn cywain gwybodaeth ar hyn o bryd ar yr asesiadau hyn er mwyn deall eu heffeithiolrwydd a ffurfio argymhellion archwilio i'r dyfodol.

Ymunwch â ni am 12 ar 4/11/21 ar gyfer trafodaeth ar rôl Byrddau wrth greu Cymru sy'n Fwy Cyfartal.

Sut ydw i'n cofrestru fy niddordeb?

Llenwch eich manylion ar y ffurflen gofrestru sydd ar ochr dde y dudalen yma os gwelwch yn dda. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd] i gynrychiolwyr, sy’n dweud wrthych chi sut rydym yn delio gyda’ch data personol fel rhan o’r broses gofrestru.  

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, anfonwch e-bost i Arfer.Da@archwilio.cymru

Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle er mwyn sicrhau ein bod yn gallu anfon gwybodaeth atoch.

You have no upcoming events
You have no upcoming events

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan

You have no upcoming events