Shared Learning Seminar
Trosglwyddo gwybodaeth i greu dilyniant mewn cyfnod o newid

Cafodd y digwyddiad bord gron lefel uwch yma ei chynnal ar y cyd gyda'r Sefydliad Rheolaeth Prosiect, lle wnaethon ni trafod sut mae arfer da yn edrych wrth reoli prosiectau a sut y gallwch weithredu proses drosglwyddo gwybodaeth ar gyfer eich sefydliad.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn
Rhannodd y digwyddiad bord gron rhad ac am ddim yma ymchwil Pulse of the Profession ® [Agorir mewn ffenest newydd] er mwyn cefnogi cadw gwybodaeth.
Mae trosglwyddo gwybodaeth yn swnio’n hawdd, ond mae’n dwyllodrus o heriol. Yn ôl ymchwil a wnaed eleni gan y Sefydliad Rheolaeth Prosiect, mae gan 75% o sefydliadau sy’n perfformio’n dda brosesau trosglwyddo gwybodaeth ffurfiol, a dim ond gan 35% o sefydliadau nad ydynt yn perfformio’n dda y mae'r prosesau hyn. Mae’n syndod dysgu felly bod llawer o sefydliadau nad ydynt yn ystyried trosglwyddo gwybodaeth yn flaenoriaeth.
Mae trosglwyddo gwybodaeth yn gweithio orau pan ei fod yn rhywbeth sydd wedi’i ymwreiddio yn niwylliant y sefydliad, a phan fo gweithwyr yn ei hoffi. Mae 90% ohonynt yn fodlon rhannu gwybodaeth ac mae 82% ar gyfartaledd yn cydymffurfio â phrosesau trosglwyddo gwybodaeth eu sefydliad.
Felly pam nad oes mwy o sefydliadau yn gwneud hyn? 
Yn ystod cyfnodau o newid, pan fo strwythurau sefydliadol a phersonél yn newid, mae’n hanfodol eich bod chi’n casglu a throsglwyddo gwybodaeth i sicrhau bod eich sefydliad yn parhau i weithredu'n ddidrafferth. Edrychodd y digwyddiad yma ar pam mae prosesau trosglwyddo gwybodaeth yn hollbwysig ar gyfer rheoli rhaglenni a phrosiectau yn effeithiol.

Ble a phryd

Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ 
Dydd Iau 10 Medi 2015
1200 - 1400
 
Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, Conwy, LL26 0DF
Dydd Mercher 23 Medi 2015
1200 – 1400

Cyfryngau cymdeithasol

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan