Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: Edrych Ymlaen

05 Chwefror 2016
  • Dysgu a rennir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Sir Fynwy a Swyddfa Archwilio Cymru.

    Rydyn ni wedi bod yn ymgysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) er mwyn meithrin dealltwriaeth o rôl archwilio wrth weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.  Fel rhan o'r ymgysylltu â CLlLC, cynhalion ni adolygiad o ba mor barod yw Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

    Rydym yn cydnabod y bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn heriol i gyrff cyhoeddus ac i archwilio cyhoeddus. Yn y seminar, fe wnaeth CLlLC gymryd y cyfle i rannu profiadau dysgu allweddol â'r sector cyhoeddus ehangach. Fe wnaethon ni, a Chyngor Sir Fynwy, ddefnyddio ein profiad i ymchwilio i’r modd y gall cyrff cyhoeddus baratoi ar gyfer yr heriau sy'n deillio o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn ogystal â manteisio ar y cyfleoedd y mae'n eu cynnig. Hefyd, fe wnaethon ni ddechrau sgwrs ynglŷn â sut gallai fod angen i archwilio cyhoeddus weithredu'n wahanol.

    I bwy oedd y digwyddiad?

    Pob corff cyhoeddus y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn effeithio arno.

    Roedd y seminar hon ar gyfer rheolwyr a swyddogion y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn y meysydd canlynol: 

    • Polisi a pherfformiad
    • Cynllunio corfforaethol
    • Rheoli Risg
    • Cynllunio'r gweithlu
    • Rheoli Ariannol
    • Caffael
    • Rheoli Asedau
    • Archwilio Mewnol
    • Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus

    Cyflwyniadau

    1. Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: Y daith hyd yma [PDF 754KB Agorir mewn ffenest newydd] - Hazel Clatworthy a Matthew Gatehouse, Cyngor Sir Fynwy 
    2. Rhannu profiadau dysgu [PDF 488KB Agorir mewn ffenest newydd] - Neville Rookes a Tim Peppin, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
    3. Archwilio yn y dyfodol [PDF 1.7MB Agorir mewn ffenest newydd]  - Mike Palmer a Alan Morris, Swyddfa Archwilio Cymru 

    Cyfryngau cymdeithasol

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details