Mae angen mwy o gymorth ar bobl sy'n wynebu rhwystrau iaith a chyfathrebu i'w helpu i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Gall cyrff cyhoeddus wneud mwy i helpu pobl sy'n wynebu rhwystrau iaith a chyfathrebu i gael mynediad i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Dyma gasgliad adroddiad a gyhoeddir heddiw.

Ein Strategaeth Pobl

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Yn wir, rydym newydd lawnsio ein Strategaeth Pobl newydd, sy’n traethu’n union sut mae i weithio gyda ni a sut rydym wedi edrych ar ôl ein staff.

Mae’n Cyfarwyddwr AD a Chyllid, Steve O’Donoghue, hefyd wedi ysgrifennu blog sy’n egluro pam rydym wedi’n hymrwymo i wneud Swyddfa Archwilio Cymru yn lle GWYCH i weithio ynddo. Gallwch ddarllen ei erthygl gan ymweld â’n safle blogiau [agorir mewn ffenest newydd].

Mae’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn gosod eu cynllun blynyddol ar gyfer 2018-19

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Yn y Cynllun, rydym wedi rhoi disgrifiad cyfredol o'r ffactorau a fydd, yn ein tyb ni, yn cael y dylanwad mwyaf ar y modd y byddwn yn cyflawni ein gwaith dros y tair blynedd nesaf. Rydym hefyd wedi ailddiffinio'r blaenoriaethau strategol sy'n sail i'r modd y byddwn yn ymateb i'r amgylchedd hwnnw ac yn cyflawni ein nod cyffredinol a'n hamcanion allweddol.
 
Yn gyffredinol, byddwn yn parhau i ganolbwyntio’n gadarn ar sicrhau y caiff dulliau gwaith a chynhyrchion archwilio eu diweddaru’n rheolaidd.

Apwyntiad Archwilydd Cyffredinol newydd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Golyga hyn bod y broses recriwtio yn parhau i’r cam nesaf, sef apwyntiad ffurfiol gan Ei Mawrhydi'r Frenhines.

Bydd Adrian Crompton, sy’n gweithio fel Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn camu mewn i le Huw Vaughan Thomas, yr Archwilydd Cyffredinol presennol, sy’n ymddeol fis Gorffennaf.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas, heddiw:

Swyddfa Archwilio Cymru yn cyrraedd safon iechyd corfforaethol efydd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Dyfarnwyd safon iechyd corfforaethol efydd i Swyddfa Archwilio Cymru – fel rhan o Raglen Cymru Iach ar Waith Llywodraeth Cymru. Mae'r dyfarniad, sy'n safon ragoriaeth gydnabyddedig, yn dangos ymrwymiad y sefydliad i gefnogi iechyd a llesiant.

Beth yw eich stori chi? Lansio arolwg i gasglu barn pobl ifanc am wasanaethau cyhoeddus

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Rydym yn cynnal astudiaeth i edrych ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n strategol i gynllunio gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed.

Bydd yr astudiaeth yn gofyn 'beth yw'r prif wersi i'w dysgu o ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull integredig o wella lles pobl ifanc?’ Bydd yn edrych i weld pa mor gydgysylltiedig yw'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl ifanc, a hynny ledled pob rhan o'r Llywodraeth.

Mae corff gwarchod y sector cyhoeddus yn ceisio adborth gan y rhanddeiliaid allweddol a'r cyhoedd ar god diwygiedig ar gyfer archwilwyr

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu gwella ac ymestyn egwyddorion sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gwneud gwaith ar ei ran. Cynhwysir y cynigion yn y ddogfen Cod Ymarfer Archwilio a rhoddir pwyslais ar safonau uchel o ran archwilio ansawdd. Datblygwyd y ddogfen i gyd-fynd â safonau rhyngwladol ar archwilio ac ymgorffori'r hyn sy’n ymddengys i fod yn arfer proffesiynol gorau.