Cynghorau lleol yn gwneud cynnydd o ran gwella'r gwaith o lywodraethu a rheoli arian cyhoeddus

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae’r symiau o arian a’r asedau cyhoeddus y mae cynghorau lleol Cymru yn eu rheoli’n cynyddu, ac mae angen iddynt wella'r trefniadau ar gyfer llywodraethu a rheolaeth ariannol sydd ganddynt er mwyn rheoli'r rhain yn effeithiol. Dyma gasgliad cyffredinol adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Lywodraethu a Rheolaeth Ariannol mewn Cynghorau Lleol

Dyma'r chweched adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n edrych ar lywodraethu a rheolaeth ariannol mwy na 730 o gynghorau tref a chymuned ledled Cymru.

Cyhoeddi enwebiad Archwilydd Cyffredinol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad bod Adrian Crompton wedi’i ddewis fel yr enwebiad i fod yr Archwilydd Cyffredinol Cymru newydd.

Mae’r penodiad dal yn amodol ar enwebiad ffurfiol gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad a chymeradwyaeth terfynol gan Ei Mawrhydi'r Frenhines

Bydd Adrian yn cymryd lle’r Archwilydd Cyffredinol presennol, Huw Vaughan Thomas pan fydd yn ymddeol fis Gorffennaf 2018.

Mae Adrian Crompton yn gweithio ar hyn o bryd fel Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae gan GIG Cymru weledigaeth glir o ran y cofnod cleifion electronig, ond mae angen rhagor o waith i gyflawni hyn

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae pob rhan o GIG Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, bellach yn wynebu penderfyniadau anodd o ran cyllido a blaenoriaethau, a hynny os yw'r weledigaeth o gofnod cleifion electronig i gael ei chyflawni o fewn amserlen resymol. Dyma rai o ganfyddiadau allweddol adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, gan yr Archwilydd Cyffredinol, sy'n edrych ar wybodeg y GIG.

Awdurdodau lleol yn gwneud cynnydd da o ran gweithredu dyletswyddau digartrefedd newydd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae'r adroddiad diweddaraf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi edrych ar sut y mae Awdurdodau Lleol yn gweithredu eu dyletswyddau newydd ac y rheoli gofynion digartrefedd wrth weithio a chydweithredu â phartneriaid.

Y gwaith paratoi tuag at ddatganoli cyllidol yn 'mynd yn dda' er gwaethaf rhai heriau

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Ar 1 Ebrill 2018, bydd Cymru'n cael ei phwerau treth datganoledig ei hunan ers dros 800 o flynyddoedd.Cyhoeddwyd adroddiad gennym yn wreiddiol yn 2016 yn nodi sut roedd Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer y newid hwn ac mae ein hadroddiad diweddaraf yn edrych ar y cynnydd maent wedi ei wneud a'r sefyllfa ynghylch sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru.

Cyfrifon ariannol llywodraeth ganolog a llywodraeth leol 'wedi'u paratoi i safon dda'

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae ei adroddiad cyntaf yn canolbwyntio ar gyrff Llywodraeth Ganolog yng Nghymru. Daw'r adroddiad hwn i'r casgliad bod safon cyfrifon a phapurau gwaith ategol llywodraeth ganolog yn dda a bod pob corff wedi cyflwyno ei gyfrifon yn brydlon. Fodd bynnag, mae lle i wella trefniadau sicrhau ansawdd o hyd mewn rhai achosion. Mae'r ffaith bod prosesau sicrhau ansawdd cadarn ar waith yn bwysig wrth benderfynu ar ansawdd y cyfrifon a gyflwynir i'w harchwilio. Mae'r adroddiad yn nodi enghreifftiau o drefniadau sicrhau ansawdd da.

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi’i lofnodi rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn creu sail ar gyfer y ffordd mae’r Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru [agorir mewn ffenest newydd] yn cydweithio ar feysydd o gyd-ddiddordeb. Yn benodol y meysydd hynny o gyfrifoldebau tebyg yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Allbynnau Cynhadledd Dyfodol Diamod ar-lein nawr

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Daeth y digwyddiad ag unigolion sy’n gweithio mewn sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus ar draws Cymru ac sy’n astudio ar gyfer cymhwyster mewn cyllid ynghyd.

Roedd digwyddiad eleni yn dilyn llwyddiant ysgubol cynhadledd y llynedd drwy drafod y newidiadau a’r heriau sy’n debygol o fwrw gweithwyr cyllid yn ystod eu gyrfa a chafodd ei redeg gan weithwyr blaengar yn y maes.

A yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cyflawni dros Gymru?

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, gwariodd cyrff cyhoeddus £234 miliwn trwy'r GCC yn ystod 2016–17, ond roedd hyn yn llawer llai na'r rhagamcanion blaenorol.

Er bod y gwariant trwy ei drefniadau caffael wedi cynyddu o un flwyddyn i'r llall ers iddo ddechrau yn 2013, nid yw cyrff cyhoeddus yn defnyddio'r GCC cymaint ag y disgwylid. O'r £234 miliwn a wariwyd trwy'r GCC yn ystod 2016–17, £222 miliwn a wariwyd gan y 73 sefydliad sy’n aelodau. Roedd cynllun busnes 2015 y GCC wedi targedu ffigur o £2.2 biliwn.

Swyddfa Archwilio Cymru yn ennill tair gwobr ar draws y busnes

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi ennill tair gwobr ar wahân o fewn wythnos, a hynny gan ddau gorff proffesiynol mawr eu bri – Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA) a'r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR).
Enillodd y Cyfarwyddwr Archwilio Ariannol, Ann-Marie Harkin, Wobr Cymru CIPFA ar gyfer Gweithiwr Proffesiynol y Flwyddyn. 
Enillodd tîm cyllid Swyddfa Archwilio Cymru y wobr Tîm Cyllid y Flwyddyn am eu gwaith yn cyhoeddi cyfrifon y sefydliad o fewn 10 wythnos wedi diwedd y flwyddyn, ac yn gynt na'r cyrff archwilio eraill