Datgelu cynllun i wneud Swyddfa Archwilio Cymru yn fwy beiddgar ac yn fwy uchelgeisiol
Datgelu cynllun i wneud Swyddfa Archwilio Cymru yn fwy beiddgar ac yn fwy uchelgeisiol
Mae Archwilydd Cyffredinol newydd Cymru, Adrian Crompton, wedi amlinellu uchelgais newydd ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru – i wireddu ei photensial llawn ac i sbarduno gwelliannau. Bwriedir i'r Cynllun Blynyddol, a gyhoeddir heddiw ar y cyd â Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, wneud y sefydliad yn fwy beiddgar, yn fwy perthnasol ac yn fwy uchelgeisiol.
Swyddfa Archwilio Cymru yw'r corff sy'n gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'n archwilio gwerth tua £19 biliwn o arian trethdalwyr; bron i draean o gynnyrch domestig gros (GDP) Cymru. Mae'n gwbl annibynnol ar y llywodraeth.