Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Fe wnaethom archwilio’r:

    • Model a strwythurau llywodraethu
    • Swyddogaethau a chyfrifoldebau allweddol o fewn y strwythurau hyn
    • Diwylliant llywodraethu
    • Seilwaith i gefnogi llywodraethu effeithiol, a’r
    • Trefniadau i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd llywodraethu

    Yr adroddiad yw’r rhan gyntaf o adolygiad mewn dau gam yn bwrw golwg ar y trefniadau llywodraethu ar draws Awdurdodau Dibenion Arbennig yng Nghymru. Bydd yr ail gam yn bwrw golwg ar lywodraethu Awdurdodau Tân ac Achub.

    Beth ganfuom ni?

    Canfuom fod y model llywodraethu ar gyfer Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru’n darparu fframwaith eglur i helpu i gyflawni eu swyddogaethau; fodd bynnag, ceir cyfleoedd i gryfhau eu trefniadau llywodraethu.

    Canfu ein hadroddiad hefyd y gallai’r atebolrwydd cyfyngedig ac anghysonderau o ran sut y caiff aelodau etholedig eu henwebu danseilio llywodraethu da.

    Rydym yn amlinellu nifer o argymhellion i Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn ein hadroddiad.

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Adolygiad cenedlaethol yn amlygu cyfleoedd i gryfhau trefniadau llywodraethu ar draws Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru

    View more
CAPTCHA