Cynnydd araf wrth fynd i'r afael â materion diogelwch mewn gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae plant a phobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn parhau i gael eu rhoi mewn perygl. Dyma gasgliad adolygiad dilynol ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru a gyhoeddwyd heddiw.

Canolbwyntiodd yr adolygiad ar y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd mewn ymateb i bryderon yn ymwneud â diogelwch a nodwyd yn adroddiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) a gyhoeddwyd yn 2009.

Dywedwch Wrthym: A Yw Eich Cymdogaeth Yn Iach?

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Caiff pobl yng Nghymru eu hannog i gwblhau arolwg byr i helpu astudiaeth newydd bwysig o Wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, sy'n cael ei lansio gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Bydd yr ymchwiliad yn ystyried pa mor dda y mae cynghorau lleol yn darparu'r gwasanaethau eang sy'n perthyn i gategori iechyd yr amgylchedd. Mae'r gwasanaethau hynny'n cynnwys:

Gweithdrefnau grantiau blaenorol yn 'anaddas' ar gyfer prosiect Fferm Bysgod Penmon

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dilyn y gweithdrefnau perthnasol ar y pryd ar gyfer cymeradwyo a rheoli arian grant i Fferm Bysgod Penmon, Ynys Môn. Ond, nid oedd y gweithdrefnau hyn yn addas ar gyfer prosiect mor fawr, cymhleth a mentrus â hwn, gyda £5.2 miliwn o arian cyhoeddus yn y fantol. Er i'r prosiect gyflawni ei brif amcanion, mae adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddir heddiw, yn dangos i broblemau godi pan oedd y fferm ar waith, gan achosi llygredd a niwsans maes o law.

Proses Cyngor Caerffili O Brynu Lwfansau Ceir a Gwyliau yn 'Anghyfreithlon'

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Gweithredodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn anghyfreithlon pan dalodd ei Brif Swyddogion i 'brynu' eu hawliau i Lwfans Defnyddiwr Car Hanfodol (ECUA) a Lwfans Gwyliau Blynyddol (ALA). Mae Anthony Barrett, yr Archwilydd Penodedig, wedi cyhoeddi adroddiad er mwyn tynnu sylw'r cyhoedd at fethiant mewn trefniadau llywodraethu yn y Cyngor ac at ddiffygion yn y prosesau a fabwysiadodd wrth wneud y taliadau hyn. 

Swyddfa Archwilio Cymru'n adolygu ei chynnydd mewn perthynas â chydraddoldeb

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Tra canolbwyntiodd adroddiad cynnydd cyntaf Swyddfa Archwilio Cymru ar bennu amcanion cydraddoldeb a gwneud trefniadau i gasglu gwybodaeth berthnasol, mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut rydym wedi dechrau integreiddio ein gwaith cydraddoldeb yn ein polisïau a'n harferion gwaith.

Cyfrifon Ariannol Cynghorau a Chyrff Heddluoedd Cymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae ansawdd cyfrifon ariannol llywodraeth leol, a gyflwynir bob blwyddyn i Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn gwella ar y cyfan - a chyflwynwyd yr holl gyfrifon erbyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin. Ond, er i welliant gael ei weld yn y flwyddyn ariannol hon, o gymharu â chyfrifon 2011/12, mae pethau wedi gwaethygu i rai cynghorau - yn arbennig mewn meysydd â gofynion cyfrifyddu cymhleth, megis eiddo, offer a chyfarpar.

Comisiwn Coedwigaeth Cymru mewn sefyllfa dda i wynebu'r dyfodol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi dilyn argymhellion archwiliadau blaenorol ac wedi datblygu blaenoriaethau clir a phriodol. Mae hefyd wedi gwella ei brosesau craidd megis caffael a rheoli grantiau a risgiau, ac mae bellach yn gwneud cynnydd da wrth gyflawni disgwyliadau ei gwsmeriaid pren masnachol. Fodd bynnag, mae bylchau cynllunio mewn meysydd fel cynllunio gofodol, cynllunio'r gweithlu a chynllunio ariannol yn llesteirio cynnydd, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Llai o wariant ar ymgynghorwyr ond amheuaeth ynglyn â gwerth am arian

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

 

Yn 2010-11 gwariwyd £133 miliwn ar ymgynghorwyr gan gyrff cyhoeddus, sef £40 miliwn yn llai nag yn 2007-08. Ym mhob sector - llywodraeth leol, iechyd a Llywodraeth Cymru - cofnodwyd gostyngiadau sylweddol mewn gwariant. Ond er gwaethaf y gostyngiadau hyn, ychydig iawn o gyrff cyhoeddus a oedd yn gallu dangos bod eu gwariant yn adlewyrchu gwerth da am arian. Mae hyn yn bennaf oherwydd data annigonol, dim digon o gydweithredu a methiant i fabwysiadu arferion da cydnabyddedig.