Gweithdrefnau grantiau blaenorol yn 'anaddas' ar gyfer prosiect Fferm Bysgod Penmon

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dilyn y gweithdrefnau perthnasol ar y pryd ar gyfer cymeradwyo a rheoli arian grant i Fferm Bysgod Penmon, Ynys Môn. Ond, nid oedd y gweithdrefnau hyn yn addas ar gyfer prosiect mor fawr, cymhleth a mentrus â hwn, gyda £5.2 miliwn o arian cyhoeddus yn y fantol. Er i'r prosiect gyflawni ei brif amcanion, mae adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddir heddiw, yn dangos i broblemau godi pan oedd y fferm ar waith, gan achosi llygredd a niwsans maes o law.

Proses Cyngor Caerffili O Brynu Lwfansau Ceir a Gwyliau yn 'Anghyfreithlon'

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Gweithredodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn anghyfreithlon pan dalodd ei Brif Swyddogion i 'brynu' eu hawliau i Lwfans Defnyddiwr Car Hanfodol (ECUA) a Lwfans Gwyliau Blynyddol (ALA). Mae Anthony Barrett, yr Archwilydd Penodedig, wedi cyhoeddi adroddiad er mwyn tynnu sylw'r cyhoedd at fethiant mewn trefniadau llywodraethu yn y Cyngor ac at ddiffygion yn y prosesau a fabwysiadodd wrth wneud y taliadau hyn. 

Swyddfa Archwilio Cymru'n adolygu ei chynnydd mewn perthynas â chydraddoldeb

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Tra canolbwyntiodd adroddiad cynnydd cyntaf Swyddfa Archwilio Cymru ar bennu amcanion cydraddoldeb a gwneud trefniadau i gasglu gwybodaeth berthnasol, mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut rydym wedi dechrau integreiddio ein gwaith cydraddoldeb yn ein polisïau a'n harferion gwaith.

Cyfrifon Ariannol Cynghorau a Chyrff Heddluoedd Cymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae ansawdd cyfrifon ariannol llywodraeth leol, a gyflwynir bob blwyddyn i Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn gwella ar y cyfan - a chyflwynwyd yr holl gyfrifon erbyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin. Ond, er i welliant gael ei weld yn y flwyddyn ariannol hon, o gymharu â chyfrifon 2011/12, mae pethau wedi gwaethygu i rai cynghorau - yn arbennig mewn meysydd â gofynion cyfrifyddu cymhleth, megis eiddo, offer a chyfarpar.

Comisiwn Coedwigaeth Cymru mewn sefyllfa dda i wynebu'r dyfodol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi dilyn argymhellion archwiliadau blaenorol ac wedi datblygu blaenoriaethau clir a phriodol. Mae hefyd wedi gwella ei brosesau craidd megis caffael a rheoli grantiau a risgiau, ac mae bellach yn gwneud cynnydd da wrth gyflawni disgwyliadau ei gwsmeriaid pren masnachol. Fodd bynnag, mae bylchau cynllunio mewn meysydd fel cynllunio gofodol, cynllunio'r gweithlu a chynllunio ariannol yn llesteirio cynnydd, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Llai o wariant ar ymgynghorwyr ond amheuaeth ynglyn â gwerth am arian

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

 

Yn 2010-11 gwariwyd £133 miliwn ar ymgynghorwyr gan gyrff cyhoeddus, sef £40 miliwn yn llai nag yn 2007-08. Ym mhob sector - llywodraeth leol, iechyd a Llywodraeth Cymru - cofnodwyd gostyngiadau sylweddol mewn gwariant. Ond er gwaethaf y gostyngiadau hyn, ychydig iawn o gyrff cyhoeddus a oedd yn gallu dangos bod eu gwariant yn adlewyrchu gwerth da am arian. Mae hyn yn bennaf oherwydd data annigonol, dim digon o gydweithredu a methiant i fabwysiadu arferion da cydnabyddedig.

Contract meddygon ymgynghorol y GIG yn methu â sicrhau'r manteision a fwriadwyd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Ym mis Rhagfyr 2003, cyflwynwyd contract diwygiedig i feddygon ymgynghorol y GIG yng Nghymru gyda'r bwriad o sicrhau nifer o fanteision i feddygon ymgynghorol a'r GIG yn gyffredinol. Rhwng 2004 a 2011 gwariwyd £35m ar weithredu'r contract newydd a oedd yn anelu at wella amgylchedd gwaith meddygon ymgynghorol, gwella prosesau recriwtio a chadw, ac annog cydweithredu rhwng rheolwyr iechyd a meddygon ymgynghorol er mwyn darparu gwasanaeth gwell i gleifion. Roedd cynllunio swyddi'n effeithiol ar gyfer meddygon ymgynghorol yn ganolog i sicrhau'r manteision hyn.

Trefn Cyngor Caerffili ar gyfer pennu cyflog uwch-swyddogion yn 'anghyfreithlon'

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae adroddiad er budd y cyhoedd ynghylch y prosesau a fabwysiadwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili er mwyn pennu cyflog prif swyddogion wedi'i gyhoeddi heddiw.

Bu'r adroddiad yn ystyried a oedd yr awdurdod lleol wedi gweithredu'n briodol wrth wneud penderfyniad ym mis Medi 2012 i gynyddu cyflog ei brif swyddogion. 

Yr Archwilydd cyffredinol yn cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Casnewydd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae'r adroddiad ar gael yn llawn ar ein gwefan a gellir ei weld drwy glicio ar y ddolen uchod.

Yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2013, caiff adroddiadau Gwella Blynyddol eu cyhoeddi ar gyfer pob un o'r 28 o awdurdodau lleol, sy'n cynnwys cynghorau lleol, Parciau Cenedlaethol a gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Mae'r adroddiadau yn ystyried sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer gwella a darparu eu gwasanaethau.