Staff Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithio ag elusennau mewn ymarfer hyfforddi Darllen mwy about Staff Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithio ag elusennau mewn ymarfer hyfforddi Wedi ymarfer hyfforddi yn cynnwys gwaith ag amrediad o gyrff elusennol mae staff Swyddfa Archwilio Cymru wedi dethol Changing Faces [Agorir mewn ffenest newydd] fel eu helusen ar gyfer 2014. Bydd staff yn gwirfoddoli i gynnal nifer o weithgareddau i godi arian ar gyfer yr elusen yn ystod y flwyddyn.
Cyngor Caerffili’n ‘Gwella’ Mewn Ymateb i Fethiannau Llywodraethol Darllen mwy about Cyngor Caerffili’n ‘Gwella’ Mewn Ymateb i Fethiannau Llywodraethol Fe achoswyd y methiannau mewn llywodraethu corfforaethol yng Nghyngor Caerffili gan gyfuniad o wendidau ac er bod yr awdurdod yn gwella erbyn hyn, mae’n rhy gynnar i ddweud os all y gwelliant hwn gael ei gynnal. Dyma gasgliad adroddiad arolygiad arbennig gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.
Felly, beth yw eich barn go iawn am wasanaethau orthopedig yng Nghymru? Darllen mwy about Felly, beth yw eich barn go iawn am wasanaethau orthopedig yng Nghymru? Ewch i dudalen blog Swyddfa Archwilio Cymru [Agorir mewn ffenest newydd] ar gyfer mwy wybodaeth.
Sicrhau etifeddiaeth y Gynhadledd Craffu Darllen mwy about Sicrhau etifeddiaeth y Gynhadledd Craffu Fel rhan o etifeddiaeth y Gynhadledd Craffu mae’r Tîm Arfer Da wedi ymrwymo i rannu allbynnau’r gynhadledd er mwyn sicrhau bod ei etifeddiaeth yn parhau ac yn cael ei rannu mor eang â phosib. Mae’r Tîm yn gwneud hyn drwy flog y Gyfnewidfa Arfer Da [Agorir mewn ffenest newydd] sy’n cynnwys dolenni i amrywiaeth o ffynonellau.
Seminar ar Fil Cenedlaethau’r Dyfodol, ar y gweill Darllen mwy about Seminar ar Fil Cenedlaethau’r Dyfodol, ar y gweill Cynhelir y seminar hwn gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn cydweithrediad â Chomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru. Bydd y Seminar hwn yn helpu sector cyhoeddus Cymru i baratoi ar gyfer Bil Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd y Bil yn gosod cyfrifoldeb newydd ar wasanaethau cyhoeddus datblygedig Cymru i wneud datblygiad cynaliadwy yn egwyddor drefniadol ganolog. Mae’r seminar wedi ei strwythuro er mwyn ymgysylltu ag arweinyddiaeth y sector cyhoeddus yng Nghymru ond hefyd i ddarparu cyfle i ymarferwyr ddatblygu eu crefft. Bydd cynrychiolwyr yn gadael y seminar gyda:
Seminar Rheoli Adeiladau yn Llwyddiant Darllen mwy about Seminar Rheoli Adeiladau yn Llwyddiant Yn Rhagfyr ac Ionawr, bu’r Gyfnewidfa Arfer Da yn cynnal seminarau yng Nghaerdydd ac yn Llanrwst ar Reoli Adeiladau. Roedd y rhain yn rhan o gyfres o seminarau ar Reoli Asedau, mewn cydweithrediad â’r Gweithgor Asedau Cenedlaethol.
Apel am farn cleifion ar wasanaethau orthopedig Darllen mwy about Apel am farn cleifion ar wasanaethau orthopedig Orthopaedeg yw'r arbenigedd meddygol sy'n atal a chywiro anafiadau ac anhwylderau yn ymwneud â'r esgyrn, cymalau, a'r cyhyrau a'r gewynnau cysylltiedig Bydd yr astudiaeth yn edrych ar effeithiolrwydd y gwasanaethau hyn ar hyd a lled Cymru ac yn gwneud awgrymiadau i'r GIG yng Nghymru. Ar gyfer yr astudiaeth, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gofyn i gleifion gwblhau arolwg byr ar-lein.
Swyddfa Archwilio Cymru yn Ymuno â'r Comisiwn Elusennau i Gynnal Seminar Arfer Da i Ymddiriedolwyr Darllen mwy about Swyddfa Archwilio Cymru yn Ymuno â'r Comisiwn Elusennau i Gynnal Seminar Arfer Da i Ymddiriedolwyr Mae'r digwyddiad, sy'n digwydd ar 6 Tachwedd, yn cael ei gynnal fel rhan o Wythnos Genedlaethol yr Ymddiriedolwyr gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y cyd â'r Comisiwn Elusennau ac Arfer Da Cymru. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer y rheini sy'n gyfrifol am lywio busnes elusen - p'un a ydynt yn ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neu aelodau pwyllgor. Bydd y digwyddiad yn rhannu'r arferion mwyaf cyfredol o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
Archwilydd Cyffredinol yn Ceisio Barn ar Set Fanylach o Egwyddorion Archwilio Darllen mwy about Archwilydd Cyffredinol yn Ceisio Barn ar Set Fanylach o Egwyddorion Archwilio Heddiw, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi ymgynghoriad ar God Ymarfer Archwilio a Datganiad o Arfer diwygiedig sy'n ymwneud â swyddogaethau archwilio, asesu ac arolygu arbennig ar gyfer gwella llywodraeth leol. Mewn ymateb i ofynion cyfreithiol newydd, a gan ystyried blaenoriaethau strategol ei ddull archwilio dros y tair blynedd nesaf, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cynnig gwella ac ymestyn yr egwyddorion sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gwneud gwaith ar ei ran.
Addysg Uwch Cymru mewn sefyllfa ariannol 'gadarn' a'r Polisi Ffioedd Dysgu'n cael ei weithredu'n dda Darllen mwy about Addysg Uwch Cymru mewn sefyllfa ariannol 'gadarn' a'r Polisi Ffioedd Dysgu'n cael ei weithredu'n dda Ar y cyfan, mae sefydliadau addysg uwch Cymru mewn sefyllfa ariannol gadarn ac mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi rhoi polisi ffioedd dysgu ar waith yn effeithiol. Dyna yw casgliad adroddiad newydd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, ond datgelodd hefyd y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud mwy i arfarnu opsiynau polisi ar ffioedd dysgu ddiwedd 2010, cyn rhoi'r trefniadau cyfredol ar waith ar ddechrau blwyddyn academaidd 2012/13, a bod y costau a amcangyfrifir wedi cynyddu ers cyhoeddi'r polisi.