Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyhoeddi adroddiad asesu corfforaethol ar awdurdod lleol Cyngor Dinas Casnewydd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae'n adeg dyngedfennol i Gyngor Dinas Casnewydd wrth iddo ddechrau mynd i'r afael â gwendidau hirsefydledig yn y ffordd y mae'n cynllunio ar gyfer gwelliant. Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Yn ôl ei adroddiad Asesu Corfforaethol, o sicrhau perchenogaeth ehangach a mwy o gapasiti, mae gan y Cyngor y potensial i gyflawni newidiadau ar y raddfa a'r cyflymder sydd eu hangen.

Llywodraeth leol Cymru yn gwella'i threfniadau ar gyfer cynllunio, darparu ac adrodd ar welliannau

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Cynghorau, Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub Cymru yn gwella eu trefniadau o ran cysylltu'r hyn y maent am ei gyflawni â'u cynlluniau a'u hadnoddau, ac mae rhai yn cyflwyno darlun clir a didwyll i bobl leol. Ond, yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a gyhoeddir heddiw, mae gwybodaeth wael yn ei gwneud hi'n anodd iddynt fod yn siwr eu bod yn deall eu perfformiad eu hunain yn ddigon da i fynd i'r afael â'r heriau sy'n eu hwynebu.

Pwysau i'r Dyfodol ar Wasanaethau Cyhoeddus Cymreig

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Awdur yr adroddiad gan Wasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 [Agorir mewn ffenest newydd] yw ein cydweithiwr Mark Jeffs. Mae'n Arweiniwr Archwilio Perfformiad yn Swyddfa Archwilio Cymru sydd ar secondiad rhan amser gyda'r fforwm meddwl. Lansiwyd yr adroddiad Pwysau i'r Dyfodol ar Wasanaethau Cyhoeddus Cymreig mewn cynhadledd yng Nghaerdydd heddiw ac mae'n adeiladu ar ymchwil gan y Sefydliad dros Astudiaethau Cyllidol (IFS).

Yr Archwilydd Cyffredinol Yn Cyhoeddi Llythyr Asesiad Gwella Ac Adroddiad Gwella Blynyddol Ar Gyngor Caerdydd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae'r llythyr a'r adroddiad ar gael yn llawn ar ein gwefan a gellir eu gweld drwy glicio ar y dolenni uchod.

Mae'r llythyr Asesiad Gwella yn ystyried y gwaith archwilio ac asesu y mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi'i wneud yn y Cyngor, ac a yw Cyngor Caerdydd (y Cyngor) wedi cyflawni ei ddyletswyddau ac wedi bodloni gofynion y Mesur Llywodraeth Leol.

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu 'y 7 mlynedd dynnaf o wariant gwasanaethau cyhoeddus yn y cyfnod ers y Rhyfel', meddai'r Archwilydd Cyffredinol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Yn siarad yng Nghynhadledd y Rhwydwaith Arweiniad Ariannol yn Stadiwm Dinas Caerdydd (10 Hydref 2013), mae'r Archwilydd Cyffredinol yn amlygu'r gyllideb ddrafft llym a rôl gall Swyddfa Archwilio Cymru chwarae wrth wneud y gorau o adnoddau cyhoeddus.

Bwrdd newydd Swyddfa Archwilio Cymru yn barod am waith

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Fe fydd Isobel Garner, sydd newydd ei hapwyntio fel Cadeirydd, yn llywio'r sefydliad gyda'r Pwyllgor Llywodraethu er mwyn cefnogi Archwilydd Cyffredinol Cymru wrth iddo gyflwyno'i raglen waith.

Yn ymuno ag Isobel yng nghyfarfod llawn cyntaf y Bwrdd heddiw fydd pedwar aelod anweithredol - Peter Price, Christine Hayes, Steve Burnett a David Corner - yn ogystal ag Archwilydd Cyffredinol Cymru.