Bwrdd newydd Swyddfa Archwilio Cymru yn barod am waith Darllen mwy about Bwrdd newydd Swyddfa Archwilio Cymru yn barod am waith Fe fydd Isobel Garner, sydd newydd ei hapwyntio fel Cadeirydd, yn llywio'r sefydliad gyda'r Pwyllgor Llywodraethu er mwyn cefnogi Archwilydd Cyffredinol Cymru wrth iddo gyflwyno'i raglen waith. Yn ymuno ag Isobel yng nghyfarfod llawn cyntaf y Bwrdd heddiw fydd pedwar aelod anweithredol - Peter Price, Christine Hayes, Steve Burnett a David Corner - yn ogystal ag Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Mae seibergadernid yn fater i bawb (hyd yn oed Billy Idol!) Darllen mwy about Mae seibergadernid yn fater i bawb (hyd yn oed Billy Idol!)
Cynnal ymdrechion gwirfoddoli yn ystod COVID-19 Darllen mwy about Cynnal ymdrechion gwirfoddoli yn ystod COVID-19 Yn y blog hwn, mae ein Harweinwyr Archwilio, Gwilym Bury a David Wilson, yn rhannu sut mae gwirfoddolwyr ledled Wrecsam a Sir y Fflint wedi darparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau gydol y pandemig COVID19.
Mae llawer mwy o wasanaethau'n symud ar-lein, ond a yw pawb yn teithio ar yr un cyflymder? Darllen mwy about Mae llawer mwy o wasanaethau'n symud ar-lein, ond a yw pawb yn teithio ar yr un cyflymder? Wrth i wasanaethau digidol gyflymu'n sydyn yn ystod y pandemig, efallai y byddai'n werth oedi i fyfyrio ar y ddihareb Affricanaidd; ‘Os ydych chi am fynd yn gyflym, ewch ar eich pen eich hun. Os ydych chi am fynd yn bell, ewch gyda'ch gilydd’
Proses ddwy ffordd yw gwirfoddoli, sy’n gwneud gwahaniaeth i bawb sy’n gysylltiedig â hi Darllen mwy about Proses ddwy ffordd yw gwirfoddoli, sy’n gwneud gwahaniaeth i bawb sy’n gysylltiedig â hi Gofynnwyd i mi unwaith ystyried rôl fel Prif Weithredwr sefydliad gwirfoddol mawr, cenedlaethol. Atebais ei bod yn ddigon anodd arwain ac ysbrydoli gweithlu cyflogedig a bod yn rhaid ei bod yn llawer mwy anodd arwain gwirfoddolwyr. Bellach, ar ôl dau brofiad grymus o wirfoddoli, y naill yn gwirfoddoli ar ward Hosbis a’r llall, yn fwy diweddar, yn sefydlu Ymateb Cymunedol COVID-19 yn Rhosili, Gŵyr, mae fy marn wedi aeddfedu. Gallaf sefyll yn ôl a myfyrio’n fwy cynhwysfawr ac ystyriol ar werth gwirfoddoli i’n cenedl.
Llyfrgelloedd – mwy na llyfrau Darllen mwy about Llyfrgelloedd – mwy na llyfrau Ers ein hedefyn Twitter am wasanaethau llyfrgell yn ôl ym mis Gorffennaf, mae llawer o bethau wedi newid. Mae'r rhestr o bethau rydyn ni'n cael eu gwneud wedi parhau i dyfu'n fwy na'r rhestr o bethau nad ydyn ni'n cael eu gwneud. Mae cynghorau wedi gallu dechrau meddwl am yr hyn sy'n dod nesaf, yn hytrach na dim ond gorfod ymateb i'r hyn sydd newydd ddigwydd.
Clwy'r Traed a'r Genau 2001 yn erbyn COVID-19 Darllen mwy about Clwy'r Traed a'r Genau 2001 yn erbyn COVID-19 Ydy’r cyfryngau cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth i sut rydym yn dysgu?
Gwersi rhyngwladol i gyrff cyhoeddus Cymru wrth ymateb i COVID-19 ac adfer o hynny Darllen mwy about Gwersi rhyngwladol i gyrff cyhoeddus Cymru wrth ymateb i COVID-19 ac adfer o hynny Bydd yn cymryd amser inni adfer o bandemig byd-eang. Mae’r cyrff cyhoeddus sy’n ein cadw’n ddiogel, yn iach a heini at y dyfodol yn canfod eu hunain mewn byd newydd, gyda phroblemau ariannol i fynd i’r afael â nhw, newid o ran ymddygiad a disgwyliadau dinasyddion ac ymwelwyr, a gweithluoedd sydd angen addasu i ffordd newydd o weithio. Bydd rhaid i bob un ohonom ddelio â risgiau ychwanegol, ac efallai y bydd dychwelyd at yr hen drefn ‘arferol’ yn cymryd cryn amser, os o gwbl.