Sicrhau etifeddiaeth y Gynhadledd Craffu

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Fel rhan o etifeddiaeth y Gynhadledd Craffu mae’r Tîm Arfer Da wedi ymrwymo i rannu allbynnau’r gynhadledd er mwyn sicrhau bod ei etifeddiaeth yn parhau ac yn cael ei rannu mor eang â phosib. Mae’r Tîm yn gwneud hyn drwy flog y Gyfnewidfa Arfer Da [Agorir mewn ffenest newydd] sy’n cynnwys dolenni i amrywiaeth o ffynonellau.

 

Seminar ar Fil Cenedlaethau’r Dyfodol, ar y gweill

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Cynhelir y seminar hwn gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn cydweithrediad â Chomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru. Bydd y Seminar hwn yn helpu sector cyhoeddus Cymru i baratoi ar gyfer Bil Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd y Bil yn gosod cyfrifoldeb newydd ar wasanaethau cyhoeddus datblygedig Cymru i wneud datblygiad cynaliadwy yn egwyddor drefniadol ganolog.

 

Mae’r seminar wedi ei strwythuro er mwyn ymgysylltu ag arweinyddiaeth y sector cyhoeddus yng Nghymru ond hefyd i ddarparu cyfle i ymarferwyr ddatblygu eu crefft. Bydd cynrychiolwyr yn gadael y seminar gyda:

Apel am farn cleifion ar wasanaethau orthopedig

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Orthopaedeg yw'r arbenigedd meddygol sy'n atal a chywiro anafiadau ac anhwylderau yn ymwneud â'r esgyrn, cymalau, a'r cyhyrau a'r gewynnau cysylltiedig

Bydd yr astudiaeth yn edrych ar effeithiolrwydd y gwasanaethau hyn ar hyd a lled Cymru ac yn gwneud awgrymiadau i'r GIG yng Nghymru.

 Ar gyfer yr astudiaeth, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gofyn i gleifion gwblhau arolwg byr ar-lein.

Swyddfa Archwilio Cymru yn Ymuno â'r Comisiwn Elusennau i Gynnal Seminar Arfer Da i Ymddiriedolwyr

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae'r digwyddiad, sy'n digwydd ar 6 Tachwedd, yn cael ei gynnal fel rhan o Wythnos Genedlaethol yr Ymddiriedolwyr gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y cyd â'r Comisiwn Elusennau ac Arfer Da Cymru.

Mae wedi'i gynllunio ar gyfer y rheini sy'n gyfrifol am lywio busnes elusen - p'un a ydynt yn ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neu aelodau pwyllgor. Bydd y digwyddiad yn rhannu'r arferion mwyaf cyfredol o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Archwilydd Cyffredinol yn Ceisio Barn ar Set Fanylach o Egwyddorion Archwilio

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Heddiw, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi ymgynghoriad ar God Ymarfer Archwilio a Datganiad o Arfer diwygiedig sy'n ymwneud â swyddogaethau archwilio, asesu ac arolygu arbennig ar gyfer gwella llywodraeth leol.

Mewn ymateb i ofynion cyfreithiol newydd, a gan ystyried blaenoriaethau strategol ei ddull archwilio dros y tair blynedd nesaf, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cynnig gwella ac ymestyn yr egwyddorion sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gwneud gwaith ar ei ran.

Addysg Uwch Cymru mewn sefyllfa ariannol 'gadarn' a'r Polisi Ffioedd Dysgu'n cael ei weithredu'n dda

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Ar y cyfan, mae sefydliadau addysg uwch Cymru mewn sefyllfa ariannol gadarn ac mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi rhoi polisi ffioedd dysgu ar waith yn effeithiol. Dyna yw casgliad adroddiad newydd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, ond datgelodd hefyd y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud mwy i arfarnu opsiynau polisi ar ffioedd dysgu ddiwedd 2010, cyn rhoi'r trefniadau cyfredol ar waith ar ddechrau blwyddyn academaidd 2012/13, a bod y costau a amcangyfrifir wedi cynyddu ers cyhoeddi'r polisi.

Cynnydd araf wrth fynd i'r afael â materion diogelwch mewn gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae plant a phobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn parhau i gael eu rhoi mewn perygl. Dyma gasgliad adolygiad dilynol ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru a gyhoeddwyd heddiw.

Canolbwyntiodd yr adolygiad ar y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd mewn ymateb i bryderon yn ymwneud â diogelwch a nodwyd yn adroddiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) a gyhoeddwyd yn 2009.

Dywedwch Wrthym: A Yw Eich Cymdogaeth Yn Iach?

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Caiff pobl yng Nghymru eu hannog i gwblhau arolwg byr i helpu astudiaeth newydd bwysig o Wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, sy'n cael ei lansio gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Bydd yr ymchwiliad yn ystyried pa mor dda y mae cynghorau lleol yn darparu'r gwasanaethau eang sy'n perthyn i gategori iechyd yr amgylchedd. Mae'r gwasanaethau hynny'n cynnwys: