Cyrff archwilio yn uno i gynhyrchu canllaw arfer da ar gyfer chwythu'r chwiban Darllen mwy about Cyrff archwilio yn uno i gynhyrchu canllaw arfer da ar gyfer chwythu'r chwiban Nod y canllaw hwn yw nodi’n glir ac yn syml sut all gweithwyr yn y sector cyhoeddus fynegi pryderon a’r hyn y dylent ei ddisgwyl gan eu cyflogwr wrth wneud hynny. Hefyd, mae’n darparu arweiniad i gyflogwyr sector cyhoeddus ar sut i annog gweithwyr i fynegi pryderon a sut i fynd i’r afael â phryderon yn effeithiol ac mewn modd agored a thryloyw. Mae’n gofyn am ddiwylliant agored a gonest ar draws y sector cyhoeddus, lle mae gan weithwyr wybodaeth glir am sut i fynegi pryderon (yn fewnol ac allanol) ac yn cael eu hannog i wneud hynny gan
Chwilio am y genhedlaeth nesaf o archwilwyr proffesiynol Darllen mwy about Chwilio am y genhedlaeth nesaf o archwilwyr proffesiynol Mae’r rhaglen ddwys, ond boddhaol, yma yn gofyn am chwaraewyr tîm craff, penderfynol, hunangymhellol a chreadigol i gyfrannu at ein sefydliad dynamig a blaengar. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn datblygu sgiliau newydd ac ennill gwybodaeth o amrywiaeth o waith archwilio yn ymwneud â thrawstoriad o gyrff cyhoeddus.
Archwilydd Penodedig yn tynnu hysbysiad ymgynghorol Cyngor Sir Penfro yn ôl Darllen mwy about Archwilydd Penodedig yn tynnu hysbysiad ymgynghorol Cyngor Sir Penfro yn ôl Bore heddiw mae’r Archwilydd Penodedig, Anthony Barrett, wedi tynnu’r Hysbysiad Ymgynghorol y cyflwynodd i Gyngor Sir Penfro ar 28 Hydref 2014 yn ôl. Mae cytundeb setlo diwygiedig i derfynu cyflogaeth y Prif Weithredwr – gyda’r gwariant anghyfreithlon wedi ei ddiddymu – wedi ei gytuno arno gan bob parti.
Gwasanaethau iechyd yr amgylchedd o dan bwysau cynyddol Darllen mwy about Gwasanaethau iechyd yr amgylchedd o dan bwysau cynyddol Mae cynghorau Cymru yn canfod ffyrdd i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol mewn perthynas ag iechyd yr amgylchedd, ond mae pryderon ynglŷn â’r ffordd y caiff y gwasanaethau pwysig hyn eu darparu yn y dyfodol. Yn yr astudiaeth gyntaf mewn cyfres o astudiaethau sy’n edrych ar sut mae cynghorau’n llwyddo i ddarparu gwasanaethau allweddol gyda llai o arian, mae’r adroddiad 'Cyflawni â llai - yr effaith ar wasanaethau Iechyd yr amgylchedd a dinasyddion' hefyd yn cynnwys gwybodaeth a gasglwyd gan y cyhoedd yn ein hymgyrch 'Fy Nhref Iach' a gynhaliwyd ym mis Ionawr eleni.
Yr Un Darlun: Gwahanol Lensys Darllen mwy about Yr Un Darlun: Gwahanol Lensys Am y tro cyntaf erioed, mae ffigyrau adolygu allanol pwysig yng Nghymru wedi dod ynghyd i gynnal digwyddiad a fydd yn trafod rhai o'r themâu cyffredin sy'n deillio o'u gwaith.
GIG Cymru yn mantoli'r gyllideb yn 2013-14 er gwaethaf perfformiad cymysg yn erbyn targedau gwasanaeth Darllen mwy about GIG Cymru yn mantoli'r gyllideb yn 2013-14 er gwaethaf perfformiad cymysg yn erbyn targedau gwasanaeth Llwyddodd GIG Cymru i fantoli'r gyllideb yn 2013-14, er gwaetha'r ffaith i dri bwrdd iechyd orwario, yn ôl adroddiad a ryddhawyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae'r adroddiad blynyddol, GIG Cymru: Trosolwg o Berfformiad Ariannol a Pherfformiad Gwasanaethau 2013-14, yn canolbwyntio ar dri phrif faes; rheolaeth ariannol, targedau perfformiad a chynllunio ar gyfer GIG Cymru yn y dyfodol.
Cynghorau Tref A Chymuned Ddim yn gwneud digon i wella trefniadau rheoli ariannol Darllen mwy about Cynghorau Tref A Chymuned Ddim yn gwneud digon i wella trefniadau rheoli ariannol Mae Cynghorau Tref a Chymuned yn gwella o ran cyflwyno eu cyfrifon ariannol ar amser, ond mae dal angen iddynt wella ansawdd y cyfrifon maent yn eu cyflwyno i’w harchwilio. Dyma gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw.
Diwylliant perfformiad corfforaethol Cyngor Ceredigion yn 'helpu i ysgogi gwelliannau' Darllen mwy about Diwylliant perfformiad corfforaethol Cyngor Ceredigion yn 'helpu i ysgogi gwelliannau' Ac ar ôl cynnal proses ailstrwythuro fewnol o ran yr uwch swyddogion, mae’n arddangos diwylliant yn seiliedig ar berfformiad corfforaethol sydd â photensial da i ysgogi’r gwelliannau angenrheidiol i wasanaethau a chanlyniadau i’w ddinasyddion.
Gynllun amaeth-amgylchedd wedi dysgu gwersi o gynlluniau blaenorol Darllen mwy about Gynllun amaeth-amgylchedd wedi dysgu gwersi o gynlluniau blaenorol Mae'r ffordd y cafodd Glastir, cynllun amaeth-amgylchedd Llywodraeth Cymru ei lunio a'i weithredu, wedi adlewyrchu rhai o'r gwersi a ddysgwyd o gynlluniau tebyg a gynhaliwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru. Ond mae gan y cynllun rai diffygion sylweddol o hyd. Dyna brif gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:
Dim Gwelliannau mewn meysydd gwasanaeth allweddol yng Nghyngor Caerdydd Darllen mwy about Dim Gwelliannau mewn meysydd gwasanaeth allweddol yng Nghyngor Caerdydd Er bod y Cyngor wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, yn enwedig ar ôl sefydlu uwch dîm arwain newydd, o ran gwella’r wybodaeth ariannol sydd ar gael am gyfarwyddiaethau a nodi gwerth £50 miliwn o arbedion posibl ar gyfer 2014-2015, erys nifer o risgiau sylweddol o hyd. Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw: