Beth yw eich barn am wasanaethau’r cyngor yng Ngheredigion?

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae gan Swyddfa Archwilio Cymru arolwg newydd sy’n gofyn i drigolion Ceredigion roi eu barn ar gyflawniad y Cyngor.

Mae modd cwblhau’r arolwg ar-lein yn gyflym a hwylus a’r bwriad yw casglu barn dinasyddion lleol ar flaenoriaethau’r cyngor mewn meysydd penodol ac ar y pethau sydd wedi newid; ydyn nhw’n credu bod rhai meysydd gwasanaeth wedi gwella, gwaethygu neu aros yr un fath – a beth sydd angen ei wella.

Dau Archwilydd Dan Hyfforddiant Swyddfa Archwilio Cymru Yn Cipio Gwobrau O Fri

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Dylan Rees a Neall Hollis ill dau wedi ennill gwobr Urdd Teilyngdod mewn Pwnc Rhyngwladol i gydnabod eu safonau cyflawniad uchel.

Enillodd Dylan Rees, Archwilydd dan Hyfforddiant yn ei drydedd flwyddyn, wobr Knox am gael y marciau uchaf ledled y byd yn y papur Adroddiadau Ariannol yn arholiadau ACA ym mis Rhagfyr.

Dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas heddiw:

Seminar yn dangos y ffordd ymlaen

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Heddiw croesawodd Swyddfa Archwilio Cymru uwch-arweinwyr ac ymarferwyr i’r seminar cyntaf mewn cyfres o seminarau dysgu ar y cyd a fydd yn ystyried Bil Cenedlaethau’r Dyfodol.

Rhoddodd y digwyddiad gyfle i’r sawl a oedd yn bresennol gael gwybod mwy am y Bil a datblygu eu harfer eu hunain.

Taliadau Optio Allan O Gynllun Pensiwn Yng Nghyngor Sir Penfro Yn ‘Anghyfreithlon’

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Roedd y penderfyniad i ganiatáu i rai uwch swyddogion yng Nghyngor Sir Penfro i dderbyn taliadau i gyfateb â chyfraniadau pensiwn y cyflogwr os ydynt yn optio allan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - i osgoi rhwymedigaethau posibl o ran treth - yn ‘anghyfreithlon’. Ac roedd y taliadau a wnaed yn dilyn hynny - er mwyn iddynt allu gwneud eu trefniadau eu hunain i gynilo ar gyfer ymddeol - hefyd yn groes i’r gyfraith, yn ôl yr Archwilydd Penodedig, Anthony Barrett.

Taliadau pensiwn ac enllib Cyngor Sir Caerfyrddin yn ‘anghyfreithlon’

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Gweithredodd Cyngor Sir Caerfyrddin ‘yn groes i’r gyfraith’ drwy wneud penderfyniad sy’n caniatáu i uwch-swyddogion optio allan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – er mwyn osgoi rhwymedigaethau posibl o ran treth – a derbyn taliad, yn gyfwerth â’u cyfraniadau pensiwn, er mwyn eu galluogi i wneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer ymddeol. Yn ogystal, gweithredodd y Cyngor yn anghyfreithlon pan benderfynodd roi indemniad i’r Prif Weithredwr er mwyn dwyn gwrth-hawliad ynghylch enllib yn erbyn unigolyn.

Cynghorau: ‘Angen Cael Gafael Tymor Hwy Ar Yr Heriau Ariannol Sy'n Eu Hwynebu!’

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Cynghorau yng Nghymru wedi llwyddo i ateb yr heriau ariannol hyd yma - er gwaethaf y pwysau sylweddol - ond mae'r craciau yn dechrau ymddangos. Yn ei adroddiad, a gyhoeddir heddiw, dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru y bydd awdurdodau lleol yn dod yn fwyfwy dibynnol ar roi trefniadau cadarn a phriodol ar waith er mwyn sicrhau arbedion effeithlonrwydd, ond nad oes gan lawer ohonynt y fath drefniadau ar hyn o bryd.

Staff Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithio ag elusennau mewn ymarfer hyfforddi

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Wedi ymarfer hyfforddi yn cynnwys gwaith ag amrediad o gyrff elusennol mae staff Swyddfa Archwilio Cymru wedi dethol Changing Faces [Agorir mewn ffenest newydd] fel eu helusen ar gyfer 2014.

Bydd staff yn gwirfoddoli i gynnal nifer o weithgareddau i godi arian ar gyfer yr elusen yn ystod y flwyddyn.

Cyngor Caerffili’n ‘Gwella’ Mewn Ymateb i Fethiannau Llywodraethol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Fe achoswyd y methiannau mewn llywodraethu corfforaethol yng Nghyngor Caerffili gan gyfuniad o wendidau ac er bod yr awdurdod yn gwella erbyn hyn, mae’n rhy gynnar i ddweud os all y gwelliant hwn gael ei gynnal. Dyma gasgliad adroddiad arolygiad arbennig gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.