Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn symud i’r cyfeiriad cywir

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru a Phrif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i barhau i roi “arweiniad egnïol, dewr ac amlwg” i adeiladu ar y cynnydd y mae eisoes wedi’i wneud o ran gwella gwasanaethau.

Ein Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol – helpu gwneud i arian cyhoeddus gyfrif

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Rydym wedi llwyddo i gyflawni y rhaglen gyfan o waith a draethwyd yn ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2016-17. Ymhlith ein cylch gwaith eang gwnaethom roi barn ar gyfrifon oddeutu 800 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru a chyhoeddi 15 o adroddiadau cenedlaethol.

Oes gennych ddawn o ddenu pobl at ddeunydd rhagorol?

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Rydym yn edrych am Swyddog Cyfathrebu i helpu creu cynnwys sy’n denu diddordeb, megis blogiau, datganiadau i’r wasg, Testun i’r we, meicrowefannau a chylchlythyron gan deilwra’r iaith yn effeithiol yn ôl y gynulleidfa targed a sianel.

Mae’r swydd fel arfer yn denu pwll cyfoethog ag amrywiol er mwyn cynghori a chynorthwyo gydag ymholiadau gan y cyhoedd, newyddiadurwyr a rhanddeiliaid eraill.

Mae cynghorau yng Nghymru yn gwella eu cynllunio ariannol ar gyfer y tymor canolig

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae’r rhan fwyaf o gynghorau Cymru wedi gwella eu cynlluniau ariannol ar gyfer y tymor canolig ac, erbyn hyn, mae ganddynt ddull effeithiol o ragamcanu yr arbedion y mae angen iddynt eu cyflawni. Mae hyn yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Canfu’r adroddiad hefyd fod gan gynghorau fwy i’w wneud i gynllunio'r modd y maent yn bwriadu pontio’r bwlch cyllid sydd wedi’i nodi ganddynt, sydd yn tanseilio eu cynlluniau ariannol ar gyfer y tymor canolig.

Mae rhaglen Llywodraeth Cymru i foderneiddio ysgolion yn cael ei rheoli’n dda ar y cyfan

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen Addysg ac Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain yn 2009 a’i nod oedd adeiladu ac ailwampio ysgolion ar hyd a lled Cymru.  Dechreuodd Band A yn 2014.  Mae adroddiad a ryddhawyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dod i’r casgliad fod Llywodraeth Cymru yn rheoli’r rhaglen yn dda ar y cyfan,  ond bydd angen iddi egluro rhai o’i disgwyliadau manwl a gwneud rhai newidiadau i ymateb i’r newidiadau arfaethedig yn y modd y caiff y rhaglen ei gweithredu a’i hariannu i sicrhau bod buddsoddiad y sector cyhoeddus yn creu mwy o werth am arian y

Hoffech chi weithio i gorff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru? Rydyn ni’n chwilio am Archwilwyr Perfformiad

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Rydyn ni’n chwilio am dri Archwiliwr Perfformiad (PS1) cymwys a phrofiadol i ymuno â ni ar unwaith o fewn y timau cyflwyno iechyd a llywodraeth leol, ar sail barhaol.

Fe fyddech chi’n gyfrifol am bob agwedd o drefnu gwaith, yn ogystal â chyfrannu at ei ddyluniad a’i chwmpas, ymchwilio a chasglu data, paratoi tystiolaeth a chyflwyno canfyddiadau i’r cyrff a archwilir.

Rhagolygon cadarnhaol i gyfrifon llywodraeth ganolog ond mae lle i wella mewn rhai meysydd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Gwnaeth pob un o 23 o gyrff llywodraeth ganolog Cymru gyflwyno eu cyfrifon i'w harchwilio yn brydlon ac yn gyffredinol i safon dda yn 2015-16. Fodd bynnag, mewn adroddiad newydd a ryddheir heddiw, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn annog rhagor o sefydliadau i ddefnyddio rhestrau gwirio datgelu cyfrifon er mwyn gwella ansawdd trefniadau sicrwydd.

Cyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £9.3 miliwn i gefnogi’r camau i ddatblygu cylchffordd rasio moduron yng Nglynebwy, ac mae wedi cytuno ar £16 miliwn o gyllid ad-daladwy pellach. Ond, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, ceir diffygion sylweddol o ran y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli’r risgiau perthnasol i arian y trethdalwyr.

Hyd yma, mae’r cyllid cychwynnol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prosiect Cylchffordd Cymru yn cynnwys: