Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi’i lofnodi rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Darllen mwy about Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi’i lofnodi rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn creu sail ar gyfer y ffordd mae’r Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru [agorir mewn ffenest newydd] yn cydweithio ar feysydd o gyd-ddiddordeb. Yn benodol y meysydd hynny o gyfrifoldebau tebyg yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Allbynnau Cynhadledd Dyfodol Diamod ar-lein nawr Darllen mwy about Allbynnau Cynhadledd Dyfodol Diamod ar-lein nawr Daeth y digwyddiad ag unigolion sy’n gweithio mewn sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus ar draws Cymru ac sy’n astudio ar gyfer cymhwyster mewn cyllid ynghyd. Roedd digwyddiad eleni yn dilyn llwyddiant ysgubol cynhadledd y llynedd drwy drafod y newidiadau a’r heriau sy’n debygol o fwrw gweithwyr cyllid yn ystod eu gyrfa a chafodd ei redeg gan weithwyr blaengar yn y maes.
A yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cyflawni dros Gymru? Darllen mwy about A yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cyflawni dros Gymru? Yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, gwariodd cyrff cyhoeddus £234 miliwn trwy'r GCC yn ystod 2016–17, ond roedd hyn yn llawer llai na'r rhagamcanion blaenorol. Er bod y gwariant trwy ei drefniadau caffael wedi cynyddu o un flwyddyn i'r llall ers iddo ddechrau yn 2013, nid yw cyrff cyhoeddus yn defnyddio'r GCC cymaint ag y disgwylid. O'r £234 miliwn a wariwyd trwy'r GCC yn ystod 2016–17, £222 miliwn a wariwyd gan y 73 sefydliad sy’n aelodau. Roedd cynllun busnes 2015 y GCC wedi targedu ffigur o £2.2 biliwn.
Swyddfa Archwilio Cymru yn ennill tair gwobr ar draws y busnes Darllen mwy about Swyddfa Archwilio Cymru yn ennill tair gwobr ar draws y busnes Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi ennill tair gwobr ar wahân o fewn wythnos, a hynny gan ddau gorff proffesiynol mawr eu bri – Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA) a'r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR). Enillodd y Cyfarwyddwr Archwilio Ariannol, Ann-Marie Harkin, Wobr Cymru CIPFA ar gyfer Gweithiwr Proffesiynol y Flwyddyn. Enillodd tîm cyllid Swyddfa Archwilio Cymru y wobr Tîm Cyllid y Flwyddyn am eu gwaith yn cyhoeddi cyfrifon y sefydliad o fewn 10 wythnos wedi diwedd y flwyddyn, ac yn gynt na'r cyrff archwilio eraill
Eitem newyddion ar yr Adroddiad Cydraddoldeb Darllen mwy about Eitem newyddion ar yr Adroddiad Cydraddoldeb Yr ydym yn falch o weld y cynnydd a wnaed gennym yn 2016-17 tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb.
A yw trefniadau caffael yn rhoi gwerth am arian i gyrff cyhoeddus Cymru? Darllen mwy about A yw trefniadau caffael yn rhoi gwerth am arian i gyrff cyhoeddus Cymru? Yn 2015–16, gwariodd cyrff cyhoeddus yng Nghymru oddeutu £6 biliwn trwy drefniadau caffael ar amrediad o nwyddau, gwasanaethau a gwaith, ond mae angen iddynt wella eu perfformiad i sicrhau gwerth am arian. Mewn tirwedd sy'n newid, mae cyrff cyhoeddus yn wynebu heriau wrth gydbwyso blaenoriaethau caffael a allai fod yn gystadleuol, ymateb i bolisi, deddfwriaeth a thechnoleg newydd, ac wrth recriwtio a chadw personél allweddol.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dymuno penodi yr Archwilydd Cyffredinol nesaf Darllen mwy about Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dymuno penodi yr Archwilydd Cyffredinol nesaf Gellir dod o hyd i’r hysbyseb ar wefan y Cynulliad [agorir mewn ffenest newydd], y dyddiad cau yw hanner dydd ar 8 Tachwedd 2017. Mae swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn benodiad gan y Goron, ar sail tymor sefydlog 8 mlynedd yn unol ag enwebiad gan y Cynulliad. Mae’r Archwilydd Cyffredinol presennol, sydd am ymddeol y flwyddyn nesaf, wedi bod yn ei swydd ers 2010.
Sut y mae cynghorau yng Nghymru yn ymdrin â newid gwasanaeth Darllen mwy about Sut y mae cynghorau yng Nghymru yn ymdrin â newid gwasanaeth Mae cynghorau yng Nghymru yn gorfod gwneud penderfyniadau pwysig am ffurf a lefel y gwasanaethau a gaiff eu darparu ganddynt yn y dyfodol. Ac, yn gyffredinol, mae ganddynt weledigaeth, blaenoriaethau a threfniadau clir yn eu lle er mwyn gwneud hyn. Ond, mae ein hadroddiad wedi canfod y gallai cynghorau wella trefniadau i fonitro'r effaith ar gymunedau lleol yn sgil gwneud newidiadau sylweddol i wasanaethau.
Eisiau gweithio ar gyfer corff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru? Darllen mwy about Eisiau gweithio ar gyfer corff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru? Dylunydd Graffeg Ydych chi’n Ddylunydd Graffeg dawnus? Ymunwch â ni! Rydym yn chwilio am Ddylunydd Graffeg profiadol i ymuno â’r Tîm Cyfathrebu am gyfnod penodol o 12 mis. Byddwch yn atebol i’r Pennaeth Cyfathrebu, a byddwch yn creu dyluniadau gweledol arloesol a thrawiadol – ar-lein ac all-lein – i gynorthwyo Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru i rannu eu negeseuon allweddol a’u canfyddiadau data’n effeithiol â chynulleidfa eang.
Rhaglen Cefnogi Pobl yn darparu gwasanaethau pwysig ond mae angen iddi wella Darllen mwy about Rhaglen Cefnogi Pobl yn darparu gwasanaethau pwysig ond mae angen iddi wella Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £124.5 miliwn yn ei Rhaglen Cefnogi Pobl (y Rhaglen) yn 2016-17, i gynorthwyo pobl sy'n agored i niwed mewn amrywiaeth o amgylchiadau i fyw mor annibynnol â phosibl. Er gwaethaf rhai gwelliannau, nid yw'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â phryderon hirsefydlog o ran y gwaith o'i chynllunio a'i chyflawni wedi bod yn effeithiol bob amser, bu'r cynnydd yn araf mewn rhai meysydd allweddol a cheir anghysondebau o ran rheoli'r Rhaglen ar lefel leol a rhanbarthol. Mae hyn yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.