Swydd gwag newydd mewn adnoddau dynol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41

Rydym yn awyddus i recriwtio Partner Dysgu Adnoddau Dynol i gefnogi'r swyddogaeth dysgu a datblygu o fewn y sefydliad.

Os ydych chi'n angerddol am sicrhau bod staff yn gallu manteisio ar y dysgu sydd angen arnynt i wneud eu swyddi yn effeithiol a’n mwynhau llunio cynlluniau datblygu a blaenoriaethu prosiectau Adnoddau Dynol, yna gwnewch gais am ein swydd Partner Dysgu Adnoddau Dynol.

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd hyn a gwnewch gais ar-lein:

Dyddiad cau ar gyfer Partner Dysgu Adnoddau Dynol: 14 Medi 2018

Fy Ngwasanaethau Cynllunio

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41

Rydym yn adolygu pa mor dda y mae awdurdodau cynllunio lleol yn cefnogi lles tymor hir eu cymunedau ac rydym am glywed gennych!

Rydyn ni eisiau gwybod beth yw'ch barn chi ar ba mor dda mae eich awdurdod cynllunio lleol yn gwella ffyniant economaidd ac a ydyn nhw'n diogelu eich cymuned rhag datblygiadau dieisiau.

Rydym am glywed eich barn ar bethau fel:

Roedd WEFO yn wynebu her enfawr i neilltuo arian yr Undeb Ewropeaidd cyn Brexit

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41
Wynebai Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) her enfawr i neilltuo holl arian cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd cyn Brexit. Fodd bynnag, ychydig cyn cyhoeddi adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol heddiw, ‘Rheoli Effaith Brexit ar Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd’, ymestynnodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei sicrhad i ddiogelu dyraniad Cymru (a’r DU) o Gronfeydd Strwythurol Ewrop yn y cyfnod hwn o gyllideb yr UE hyd 2020.
Bydd y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth 2019.

Ai chi fydd ein Prentis Archwilio Ariannol nesaf?

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41
Er y byddwch yn gweithio â rhifau, byddwch yn golygu llawer mwy na hynny i ni.
Byddwch yn ymuno â sefydliad sy’n le gwych i weithio gyda phobl sy’n ymrwymedig i greu Cymru well. 
Diddordeb?
Ewch i weld ein swyddi gwag am fwy o wybodaeth neu gyflwyno cais ar-lein.

Archwilydd Cyffredinol newydd yn dod i'w sywdd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41
Penodiad y Goron yw'r swydd, sydd am dymor o wyth mlynedd, ac mae'n gwbl annibynnol ar y Llywodraeth. Fel Archwilydd Cyffredinol Cymru, bydd Adrian hefyd yn Brif Weithredwr Swyddfa Archwilio Cymru. 
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithio i gefnogi'r Archwilydd Cyffredinol fel ceidwad sector cyhoeddus Cymru.

Canllaw newydd yr Archwilydd Cyffredinol yn rhoi i ni'r gwir am gyllid cyhoeddus Cymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41

Heddiw, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol ganllaw defnyddiol ar gyllid cyhoeddus yng Nghymru. Fe'i cynlluniwyd i helpu'r sector cyhoeddus, gwleidyddion, academyddion, y cyfryngau a sefydliadau perthnasol eraill. Mae'n nodi rhai materion allweddol y dylai'r rhai sy'n ymwneud â chraffu ar gyllid cyhoeddus eu cadw mewn cof.

Mae gwasanaethau y tu allan i oriau o dan straen

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41

Mae gwasanaethau y tu allan i oriau yn darparu gofal sylfaenol brys pan fydd meddygfeydd ar gau. Maent yn rhan o gyfundrefn gofal brys ehangach sy’n cynnwys Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, Galw Iechyd a’r gwasanaeth 111 sydd ar ddod.

Dengys yr adroddiad fod gwasanaethau y tu allan i oriau o dan gryn straen, er gwaethaf yr adborth cadarnhaol a geir gan gleifion. Mae lefelau isel o forâl ymhlith y staff ac anawsterau wrth lenwi sifftiau yn bygwth cadernid gwasanaethau yn sawl rhan o Gymru, ac mae angen ymateb mwy cynaliadwy i’r heriau hyn.

Blwyddyn gynhyrchiol i archwilio cyhoeddus yng Nghymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41

Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2018 wedi'u cyhoeddi erbyn hyn, a dyma fydd y rhai olaf i'r Archwilydd Cyffredinol presennol cyn iddo ymddeol. Dengys, diolch i broffesiynoldeb, ymroddiad a gwaith caled staff Swyddfa Archwilio Cymru, i ni gyflawni ein rhaglen eang o waith i safon uchel yn llwyddiannus.

Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41

Mae’n cyflwyno’r ffeithiau’n gysylltiedig â’r Cytundeb Cydweithredu a lofnododd y ddau gorff ym mis Chwefror 2014 i hyrwyddo cynyrchiadau teledu a ffilm yng Nghymru. Mae’r adroddiad hefyd yn disgrifio’r digwyddiadau a arweiniodd at ddiddymu’r cytundeb hwnnw, ynghyd â manylion y Cytundeb Gwasanaethau Rheoli olynol a ddechreuodd fis Tachwedd 2017.