Enwebiad am Wobr Arloesedd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Arloesedd Cyllid Cyhoeddus [yn agor mewn ffenestr newydd].

Mae'r enwebiad cyntaf yn y categori ar gyfer 'Cyflawniad mewn Adrodd Ariannol ac Atebolrwydd'. Mae'r enwebiad yn cydnabod y ffordd arloesol rydym wedi cyflwyno ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon, ynghyd â'r cynllun blynyddol, amcangyfrifon ac adroddiadau cynllun ffioedd.

Mae angen i gynghorau cymunedol wella rheolaeth ariannol a llywodraethu

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae gormod o gynghorau cymunedol yng Nghymru yn derbyn barn archwilio amodol y gellid ei hosgoi, meddai adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw.

Daeth y pumed ymchwiliad blynyddol i reolaeth ariannol a llywodraethu dros 735 o gynghorau cymunedol ledled Cymru i'r casgliad bod lle i ddatblygu a gwella rheolaeth ariannol a llywodraethu ymhellach, yn enwedig o ran ansawdd yr adroddiadau ariannol.

Mae buddsoddiad mewn gwasanaethau trydydd sector yn cynyddu, ond nid yw awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwneud y defnydd gorau o'r trydydd sector

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
(Fideo yn Saesneg un unig)
Nid yw awdurdodau lleol yng Nghymru bob amser yn gwneud y defnydd gorau o'r trydydd sector ac mae'n rhaid iddynt wneud mwy i sicrhau bod y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd yn parhau i sicrhau gwerth am arian, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae awdurdodau lleol wedi gorfod dod o hyd i ffyrdd newydd o gynnal gwasanaethau yn wyneb gostyngiadau mewn arian cyhoeddus ac, o ganlyniad, wedi cynyddu'r arian y maent yn ei roi i ddarparw

Mae angen proffil uwch ar gyfer rheoli meddyginiaethau mewn cyrff iechyd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae cyrff iechyd yng Nghymru yn cydweithio’n dda i wella’r ffordd y caiff meddyginiaethau eu rhagnodi a’u rheoli, ond mae angen sicrhau proffil uwch. Dyna gasgliad adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd heddiw. 
 
Canfu’r adroddiad hefyd, er bod GIG Cymru’n cymryd camau i wella rhagnodi mewn gofal sylfaenol, bod lle i wella ansawdd a chostau ymhellach.

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi cymryd camau sylweddol tuag at wella ei threfniadau llywodraethu a rheoli

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Er y gwelliannau yn ddiweddar i’r trefniadau llywodraethu a chamau a gymerwyd i ostwng costau, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn wynebu heriau a chyfleoedd wrth iddi geisio creu sylfaen gynaliadwy hirdymor, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Llywodraeth Cymru’n ‘paratoi’n dda i ymgymryd â’i chyfrifoldebau datganoli cyllidol’

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi’n dda i ymgymryd â chyfrifoldebau o ran datganoli gyllidol, y tro cyntaf ers dros 800 mlynedd i Gymru fod yn gyfrifol am godi elfen o refeniw treth ei hun. Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Nid yw awdurdodau lleol yn ystyried pob dewis i gynhyrchu incwm

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae ein hadroddiad diweddaraf yn pwyso a mesur sut y mae awdurdodau lleol yn cynhyrchu incwm ac yn manteisio ar y gallu i godi tâl am wasanaethau i wella eu sefyllfa ariannol.

Mae’n canfod, er bod awdurdodau lleol yn codi mwy o arian wrth godi tâl, nid ydynt yn ystyried pob dewis i gynhyrchu incwm, a hynny o ganlyniad i wendidau yn eu polisïau a sut y maent yn defnyddio data a gwybodaeth i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o heriau sy’n wynebu awdurdodau lleol wrth ystyried cynhyrchu incwm, gan gynnwys: