Mae’n rhaid i gamau gweithredu gyfateb â brwdfrydedd os yw uchelgais llesiant cenedlaethau’r dyfodol i gael ei wireddu yng nghymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cymryd camau i newid y ffordd y maent yn gweithio mewn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 [agorir mewn ffenest newydd] ac mae llawer yn siarad amdani â brwdfrydedd a gobaith. Fodd bynnag, mae angen iddynt ystyried sut y byddant yn cymhwyso’r Ddeddf yn fwy systematig os ydynt yn mynd i ysgogi ffordd wahanol o weithio yn y tymor hwy.

Ymunwch â’n tîm cyfathrebu sydd wedi ennill sawl gwobr!

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu llawn amser (tymor sefydlog am o leiaf 12 mis) i helpu hyrwyddo gwaith Swyddfa Archwilio Cymru – ai chithau yw’r person hwn?

Os oes gennych brofiad o ddenu pobl gyda deunydd rhagorol, cydlynu digwyddiadau a chynhyrchu deunydd fideo creadigol, yna fe all y swydd hon fod yr un i chi!

Canfuwch fwy a gwnewch gais cyn 8 Mai.

Mae angen mwy o gymorth ar bobl sy'n wynebu rhwystrau iaith a chyfathrebu i'w helpu i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Gall cyrff cyhoeddus wneud mwy i helpu pobl sy'n wynebu rhwystrau iaith a chyfathrebu i gael mynediad i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Dyma gasgliad adroddiad a gyhoeddir heddiw.

Ein Strategaeth Pobl

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Yn wir, rydym newydd lawnsio ein Strategaeth Pobl newydd, sy’n traethu’n union sut mae i weithio gyda ni a sut rydym wedi edrych ar ôl ein staff.

Mae’n Cyfarwyddwr AD a Chyllid, Steve O’Donoghue, hefyd wedi ysgrifennu blog sy’n egluro pam rydym wedi’n hymrwymo i wneud Swyddfa Archwilio Cymru yn lle GWYCH i weithio ynddo. Gallwch ddarllen ei erthygl gan ymweld â’n safle blogiau [agorir mewn ffenest newydd].

Mae’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn gosod eu cynllun blynyddol ar gyfer 2018-19

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Yn y Cynllun, rydym wedi rhoi disgrifiad cyfredol o'r ffactorau a fydd, yn ein tyb ni, yn cael y dylanwad mwyaf ar y modd y byddwn yn cyflawni ein gwaith dros y tair blynedd nesaf. Rydym hefyd wedi ailddiffinio'r blaenoriaethau strategol sy'n sail i'r modd y byddwn yn ymateb i'r amgylchedd hwnnw ac yn cyflawni ein nod cyffredinol a'n hamcanion allweddol.
 
Yn gyffredinol, byddwn yn parhau i ganolbwyntio’n gadarn ar sicrhau y caiff dulliau gwaith a chynhyrchion archwilio eu diweddaru’n rheolaidd.

Apwyntiad Archwilydd Cyffredinol newydd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Golyga hyn bod y broses recriwtio yn parhau i’r cam nesaf, sef apwyntiad ffurfiol gan Ei Mawrhydi'r Frenhines.

Bydd Adrian Crompton, sy’n gweithio fel Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn camu mewn i le Huw Vaughan Thomas, yr Archwilydd Cyffredinol presennol, sy’n ymddeol fis Gorffennaf.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas, heddiw:

Swyddfa Archwilio Cymru yn cyrraedd safon iechyd corfforaethol efydd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Dyfarnwyd safon iechyd corfforaethol efydd i Swyddfa Archwilio Cymru – fel rhan o Raglen Cymru Iach ar Waith Llywodraeth Cymru. Mae'r dyfarniad, sy'n safon ragoriaeth gydnabyddedig, yn dangos ymrwymiad y sefydliad i gefnogi iechyd a llesiant.