Cyngor Dinas Caerdydd - Gwaith Dilynol ar yr Asesiad Corfforaethol Darllen mwy about Cyngor Dinas Caerdydd - Gwaith Dilynol ar yr Asesiad Corfforaethol Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi gosod trefniadau gwell yn eu lle i gefnogi gwelliant a mynd i'r afael â phroblemau hirsefydlog, ond mae bellach wedi cyrraedd pwynt allweddol o ran eu hymgorffori os yw am gyflawni newid sylweddol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell. Dyna gasgliad adroddiad dilynol asesiad corfforaethol yr Archwilydd Cyffredinol a gyhoeddwyd heddiw.
Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru Darllen mwy about Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru Heddiw, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol ei adroddiad ar sefydlu ac arolygu Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru.
Mae angen i fyrddau iechyd gryfhau eu trefniadau ar gyfer rheoli effaith ymarfer preifat ar y GIG Darllen mwy about Mae angen i fyrddau iechyd gryfhau eu trefniadau ar gyfer rheoli effaith ymarfer preifat ar y GIG Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, er bod ymarfer preifat yn cynrychioli lefel fechan iawn o weithgarwch o’i gymharu â chyfanswm y gweithgarwch GIG a gynhelir yng Nghymru, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi dod i’r casgliad nad oes gan fyrddau iechyd y trefniadau rheoli i sicrhau nad yw gwaith ymarfer preifat yn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau’r GIG.
Cyfoeth Naturiol Cymru mewn sefyllfa gref i gyflawni’r buddiannau a fwriadwyd Darllen mwy about Cyfoeth Naturiol Cymru mewn sefyllfa gref i gyflawni’r buddiannau a fwriadwyd Trawsgrifiad Cymraeg - Saesneg yn unig [Word 14KB Agorir mewn ffenest newydd] Mae mabwysiadu dull cadarn a threfnus i sefydlu’r corff amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru yn golygu bod ganddo’n awr sylfaen cadarn i barhau i gyflawni’r buddiannau a fwriadwyd wrth ei greu ac ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau y bydd yn eu hwynebu yn y dyfodol. Dyna a ddywed adroddiad a ryddhawyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Ymgymerodd Llywodraeth Cymru â phroses sicrhau diwydrwydd dyladwy priodol ar gyfer prynu Maes Awyr Caerdydd Darllen mwy about Ymgymerodd Llywodraeth Cymru â phroses sicrhau diwydrwydd dyladwy priodol ar gyfer prynu Maes Awyr Caerdydd TMae'r Archwilydd Cyffredinol heddiw wedi cyhoeddi ei adroddiad ar gaffaeliad a pherchnogaeth Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr Caerdydd. Mae'r adroddiad yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn pryderu'n fwyfwy am ddirywiad y Maes Awyr yn y blynyddoedd cyn y caffaeliad, er ymdrechion i roi cymorth ac, yn ddiweddarach, i wella ei pherthynas gweithio â pherchnogion y maes awyr. Roedd Llywodraeth Cymru yn ystyried y byddai perchnogaeth gyhoeddus yn rhoi’r sefydlogrwydd a'r ymroddiad a oedd eu hangen ar y Maes Awyr er mwyn ei ddatblygu yn y tymor hir.
Cyngor pen-y-bont ar ogwr yn gwneud cynnydd da tuag at sicrhau gwelliant ar gyfer y dyfodol Darllen mwy about Cyngor pen-y-bont ar ogwr yn gwneud cynnydd da tuag at sicrhau gwelliant ar gyfer y dyfodol Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn datblygu cynlluniau priodol ar gyfer y dyfodol, a chyhyd â'i fod yn sicrhau bod ei swyddogaethau TGCh yn gydnaws â’i adnoddau dynol o fewn ei raglen weddnewid, mae mewn sefyllfa dda i sicrhau gwelliant. Dyna yw casgliad adroddiad asesu corfforaethol a gyhoeddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol heddiw. Meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:
Lansio astudiaeth newydd i edrych ar gynhyrchu incwm mewn cynghorau Darllen mwy about Lansio astudiaeth newydd i edrych ar gynhyrchu incwm mewn cynghorau Rydym wedi lansio astudiaeth newydd sy’n edrych ar sut mae cynghorau’n rheoli’r gwasanaethau sy’n cynhyrchu incwm iddynt ledled Cymru.
Cyfrifon Llywodraeth Leol 2014-15 Darllen mwy about Cyfrifon Llywodraeth Leol 2014-15 Heddiw mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi rhyddhau ei bumed adroddiad ar gyfrifon cyrff llywodraeth leol. Mae’r adroddiad yn edrych ar effeithiolrwydd cyrff a archwilir (o awdurdodau unedol i barciau cenedlaethol) wrth baratoi eu cyfrifon ar gyfer eu harchwilio ar ddiwedd y flwyddyn. Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas, heddiw: Er gwaethaf yr addasiadau materol, roedd modd i mi gyflwyno barn ddiamod ar gyfer datganiadau cyfrifyddu pob corff.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda Darllen mwy about Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda Oriau agor Bydd ein swyddfeydd ar gau ar ddydd Gwener 25ain Rhagfyr a dydd Llun 28ain Rhagfyr. Byddwn ar agor rhwng dydd Mawrth 29ain – dydd Iau 31ain Rhagfyr ar oriau busnes arferol ac yna ar gau ar ddydd Gwener, 1af o Ionawr.
Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus: Beth mae’r adroddiad yn dweud? Darllen mwy about Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus: Beth mae’r adroddiad yn dweud?