Mae cyrff lywodraeth leol yn parhau i wynebu heriau wrth baratoi a gwella cyfrifon blynyddol prydlon

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Gwnaeth cyrff llywodraeth leol Cymru wella ansawdd eu cyfrifon blynyddol cyn archwilio ar gyfer 2015-16, ond maent yn dal i wynebu heriau yn y tymor canolig i wella a pharatoi eu cyfrifon i fodloni terfynau amser statudol cynharach. Mae hyn yn ôl adroddiad a ryddhawyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Colegau addysg bellach yn ymdopi â thoriadau Llywodraeth Cymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Er gwaethaf toriadau mewn grantiau, mae trefniadau dyrannu cyllid a goruchwylio Llywodraeth Cymru ar gyfer colegau addysg bellach yn gadarn ar y cyfan, er y byddent yn elwa o ddull mwy integredig a hirdymor. Mae hyn i’w weld mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Cydnabyddiaeth allanol i ymrwymiad Swyddfa Archwilio Cymru i amrywiaeth a chydraddoldeb

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Yn y flwyddyn gyntaf o fod ar y Mynegai, daethom yn safke 251 allan o 439 o gyflogwyr ledled y DU, gyda sgôr o 66.5, gan hybu Stonewall i gydnabod safle cyntaf rhagorol y sefydliad.

Enwebiad am Wobr Arloesedd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Arloesedd Cyllid Cyhoeddus [yn agor mewn ffenestr newydd].

Mae'r enwebiad cyntaf yn y categori ar gyfer 'Cyflawniad mewn Adrodd Ariannol ac Atebolrwydd'. Mae'r enwebiad yn cydnabod y ffordd arloesol rydym wedi cyflwyno ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon, ynghyd â'r cynllun blynyddol, amcangyfrifon ac adroddiadau cynllun ffioedd.

Mae angen i gynghorau cymunedol wella rheolaeth ariannol a llywodraethu

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae gormod o gynghorau cymunedol yng Nghymru yn derbyn barn archwilio amodol y gellid ei hosgoi, meddai adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw.

Daeth y pumed ymchwiliad blynyddol i reolaeth ariannol a llywodraethu dros 735 o gynghorau cymunedol ledled Cymru i'r casgliad bod lle i ddatblygu a gwella rheolaeth ariannol a llywodraethu ymhellach, yn enwedig o ran ansawdd yr adroddiadau ariannol.

Mae buddsoddiad mewn gwasanaethau trydydd sector yn cynyddu, ond nid yw awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwneud y defnydd gorau o'r trydydd sector

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
(Fideo yn Saesneg un unig)
Nid yw awdurdodau lleol yng Nghymru bob amser yn gwneud y defnydd gorau o'r trydydd sector ac mae'n rhaid iddynt wneud mwy i sicrhau bod y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd yn parhau i sicrhau gwerth am arian, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae awdurdodau lleol wedi gorfod dod o hyd i ffyrdd newydd o gynnal gwasanaethau yn wyneb gostyngiadau mewn arian cyhoeddus ac, o ganlyniad, wedi cynyddu'r arian y maent yn ei roi i ddarparw

Mae angen proffil uwch ar gyfer rheoli meddyginiaethau mewn cyrff iechyd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae cyrff iechyd yng Nghymru yn cydweithio’n dda i wella’r ffordd y caiff meddyginiaethau eu rhagnodi a’u rheoli, ond mae angen sicrhau proffil uwch. Dyna gasgliad adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd heddiw. 
 
Canfu’r adroddiad hefyd, er bod GIG Cymru’n cymryd camau i wella rhagnodi mewn gofal sylfaenol, bod lle i wella ansawdd a chostau ymhellach.