Mae gwaith cynllunio ariannol cynghorau yn cryfhau

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae Cynghorau Cymru'n mynd drwy gyfnod o ostyngiadau parhaus yn eu cyllid, sy'n cael effaith ar eu gallu i ddarparu gwasanaethau allweddol i'r cyhoedd. Mae ein hadroddiad diweddaraf yn edrych ar ba mor gadarn yw cynghorau'n ariannol wrth reoli eu cyllid a chynllunio newidiadau i'r dyfodol. 

Mae'r adroddiad yn edrych ar ansawdd ac effeithiolrwydd cynllunio ariannol presennol, rheolaeth a threfniadau llywodraethu y 22 cyngor yng Nghymru.

Ymgynghoriad archwilio yn arwain y ffordd ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mewn ymateb i gwestiynau am archwilio yng nghyswllt y Ddeddf arloesol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru fabwysiadu dulliau mwy cynaliadwy at eu gwaith, cafodd ei Ymgynghoriad gyfradd ymateb o wyth deg y cant.  Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn awyddus i dynnu sylw at yr ymatebion ystyriol ac adeiladol a gafodd sy'n dangos diddordeb mawr mewn helpu i ddatblygu'r dull newydd hwn o archwilio ymhellach.

Gwerth £4.4 miliwn o dwyll a gordaliadau wedi eu canfod yng Nghymru drwy'r Fenter Twyll Genedlaethol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae'r ymarferiad gwrth-dwyll cenedlaethol diweddaraf, sy'n cael ei gynnal bob chwe mis, wedi cynorthwyo cyrff cyhoeddus Cymru i ddarganfod £4.4 miliwn o dwyll a thaliadau gwallus yn 2014-15, yn ôl adroddiad a ryddhawyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw.
Gyda'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu eu her fwyaf ers cenhedlaeth, mae'n hanfodol i gyrff cyhoeddus ddileu gwastraff ac aneffeithlonrwydd er mwyn lleihau'r effaith bosibl ar wasanaethau rheng flaen.

Cyllid Llywodraeth Cymru i Kancoat Ltd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae’r adolygiad canfod ffeithiau, a gynhaliwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn manylu ar y gefnogaeth ariannol a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i’r cwmni gweithgynhyrchu, Kancoat Ltd. Yng nghyd-destun dull Llywodraeth Cymru o gefnogi busnesau, ystyriodd yr adolygiad y pecyn cyllido a sut aeth Llywodraeth Cymru ati i reoli’r risgiau cysylltiedig.

Cyfarwyddwr yn cipio Gwobr Arwain Cymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Derbyniodd Ann-Marie y gydnabyddiaeth yn y categori ‘Merched mewn Arweinyddiaeth’ mewn seremoni yng Ngwesty’r Hilton yng Nghaerdydd heddiw.
Mae’r wobr yn adlewyrchu gwaith arloesol Ann-Marie o ran dysgu a datblygu, sy’n cynnwys sefydlu cynllun hyfforddiant newydd ar draws Cymru – syniad y bu iddi ddatblygu ei hun.
Mae’r cynllun yn rhan annatod o ail-siapio Swyddfa Archwilio Cymru, wrth i’r sefydliad geisio recriwtio hyd at 12 o hyfforddeion bob blwyddyn ar gontractau pedair blynedd.
Bydd yr hyfforddeion ar y cynllun yn mynd

Blwyddyn drawiadol i archwilio cyhoeddus yng Nghymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

(Sain yn Saesneg yn unig. Isdeitlau Cymraeg ar gael trwy gosodiadau closed captions "CC")

Mae'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon a gyhoeddwyd ar y cyd ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2016 hefyd yn dangos ein bod ar y trywydd cywir i gyflawni pob un o'n blaenoriaethau tair blynedd.

Mae'r adroddiad yn rhoi dadansoddiad o berfformiad a’r hyn a gyflawnwyd - mewn meysydd megis effaith, arweinyddiaeth, cyllid, cyfathrebu a'r amgylchedd. Er enghraifft:

Yr Archwilydd Cyffredinol yn ymgynghori ynghylch dull archwilio newydd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Daw hyn mewn ymateb i ddeddfwriaeth ddiweddar a deddfwriaeth sydd i ddod yn y dyfodol, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 [Agorir mewn ffenest newydd], sydd wedi gosod dyletswyddau statudol newydd arno. 

Mae heriau a newidiadau eraill yn wynebu gwasanaethau cyhoeddus, y mae'n rhaid hefyd eu cymryd i ystyriaeth wrth ddatblygu dull newydd o archwilio'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

Yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn gosod eu Cynllun ar gyfer y flwyddyn i ddod

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae’r Cynllun yn cynnwys nifer o ddiwygiadau allweddol i raglen waith yr Archwilydd Cyffredinol yn ogystal ag amlinelliad o rai o brosiectau blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn.

Ceir hefyd ddisgrifiad manylach o’r heriau a wynebir o ran yr amgylchedd weithredu gyfredol a sut y bydd yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn ymateb i’r heriau hynny, yn ogystal â helpu’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gwrdd â hwy.

Mae angen gwelliant pellach ar lywodraethu a rheolaeth ariannol cynghorau cymuned a thref

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae nifer y cynghorau cymuned a thref yng Nghymru sy'n darparu cyfrifon diwedd y flwyddyn yn amserol wedi gwneud gwelliant cyson ers 2013-14. Fodd bynnag, erys pryderon blaenorol ynghylch llywodraethu a rheolaeth ariannol, yn ôl adroddiad a ryddhawyd gan Archwilydd Cyffredinol.