Digwyddiadau arfer da ar gyfer 2015-16

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae ein tîm Cyfnewidfa Arfer Da yn cynnal seminarau dysgu ar y cyd drwy gydol y flwyddyn, yn ne a gogledd Cymru. 
Yn ystod y chwarter nesaf, mae’r digwyddiadau canlynol yn cael eu cynnal: 

Cyngor Torfaen yn cau ei gyfrifon yn gynt nag erioed

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi llongyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar gau ei ddatganiad blynyddol o’i gyfrifon yn gynnar. Llwyddodd y Cyngor i wneud hyn 10 wythnos lawn cyn yr amser penodedig, gan gyrraedd y targed cau’n gynnar y mae’r Trysorlys am weld pob un o sefydliadau llywodraeth leol yn symud tuag ato.  

Cyfleuster BrowseAloud ar gael ar ein gwefan nawr

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
 
Mae’r adnodd am ddim yma’n cefnogi defnyddwyr drwy ddarllen neu gyfieithu cynnwys y we, gan roi mynediad i bobl i’n gwefan mewn ffordd llawer mwy cyfeillgar i’r defnyddiwr. 
  • Testun i siarad – mae hyn yn golygu bod posib i gynnwys y dudalen gael ei ddarllen yn uchel i chi tra mae’r testun yn cael ei oleuo’n felyn ar yr un pryd. 
  • Cyfieithiad llafar ac ysgrifenedig - mae’r adnodd yma’n gallu cyfieithu tudalennau’r we i 78 o ieithoedd gwahanol ac, ar hyn o bryd, mae’r swyddogaeth tes

Staff yn barod i gyfarfod â'r cyhoedd yn Sioe Frenhinol Cymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae ein cynllun blynyddol yn amlygu un o'n prif amcanion, sef "ymgysylltu'n fwy effeithiol â’r cyhoedd, mae eu cynrychiolwyr a rhanddeiliaid eraill i fesur effaith ein gwaith, asesu ein perfformiad a mesur ein llwyddiant."
Sioe Frenhinol Cymru [Agorir mewn ffenest newydd] yw sioe amaethyddol fwyaf Ewrop ac mae'n denu tua 250,000 o bobl bob blwyddyn.

Trefniadau corfforaethol ar gyfer diogelu’n amrywiol ledled Cymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Heddiw mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi rhyddhau ei adroddiad sy’n edrych ar drefniadau corfforaethol cynghorau yng Nghymru ar gyfer diogelu plant. Er bod gan yr holl gynghorau systemau a phrosesau i oruchwylio’r gwaith o ddiogelu plant, mae’r Archwilydd wedi canfod bod cyfleoedd yn bodoli i gryfhau dull y cynghorau o reoli’r cyfrifoldebau hyn.

Ni all llywodraeth Cymru ddangos gwerth am arian o werthu tir

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cwblhau astudiaeth gwerth am arian fanwl o werthu asedau tir ac eiddo cyhoeddus gan Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio [Agorir mewn ffenest newydd] (y Gronfa) a hefyd y broses o lywodraethu, gweithredu a goruchwylio'r Gronfa. 
Daw i'r casgliad na all Llywodraeth Cymru [Agorir mewn ffenest newydd] na'r Gronfa ddangos gwerth am arian o werthu'r ased, a wnaeth dynnu sylw'r Gronfa oddi ar ei di

Cyngor Abertawe yn gwella mewn amrywiaeth o wasanaethau

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Gall Cyngor Abertawe ddangos gwelliant mewn amrywiaeth o wasanaethau allweddol ac mae wedi datblygu fframwaith clir ar gyfer rheoli heriau yn y dyfodol. Dyma gasgliad adroddiad asesu corfforaethol a gwella blynyddol a gyhoeddir gan yr Archwilydd Cyffredinol heddiw.
Daw'r adroddiad i'r casgliad bod gan y Cyngor weledigaeth glir o'r hyn y mae am ei gyflawni, gan ddatblygu blaenoriaethau allweddol i gyflawni'r weledigaeth honno a sicrhau ymrwymiad yr uwch reolwyr.