Yn gyffredinol, mae cynghorau a chyrff yr heddlu yn paratoi cyfrifon amserol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae ansawdd cyffredinol y cyfrifon a lunnir gan gyrff archwiliedig ac a gyflwynir i'w harchwilio wedi parhau'n gyson ar y cyfan. Fodd bynnag, mae ansawdd a chywirdeb y cyfrifon wedi dirywio mewn nifer o gyrff.                                    

Rhywfaint o gynnydd da ond mae'r modd yr ymdrinnir â cheisiadau am ad-daliad ffioedd cartrefi gofal yn destun pryder o hyd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Cafwyd ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru i nifer o'r materion a godwyd a'r argymhellion a wnaed yn flaenorol gan yr Archwilydd Cyffredinol a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol. Er hynny, mae'r dull o glirio hawliadau ôl-weithredol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn destun pryder o hyd, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Llawer o gleifion yn disgwyl yn hir am driniaeth y GIG yng Nghymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae ein hadroddiad newydd Amseroedd Aros y GIG ar gyfer Gofal Dewisol yng Nghymru yn tynnu sylw at y ffaith nad yw trefniadau presennol GIG Cymru yn sicrhau amseroedd aros isel cynaliadwy, ond bod gan gynlluniau newydd y potensial i wella’r sefyllfa os cânt eu rhoi ar waith yn effeithiol.

Mae Cyngor Caerffili yn gwneud cynnydd da yn erbyn argymhellion archwilio diweddar

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi rhyddhau adroddiad dilynol ar Gyngor Caerffili heddiw. Mae’r adroddiad yn ystyried y gwaith a wnaed gan y Cyngor mewn ymateb i adroddiad yr Arolygiad Arbennig (a ryddhawyd ym mis Ionawr 2014) a’r Adroddiadau er Budd y Cyhoedd (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth ac ym mis Rhagfyr 2013).
 

Mae diwygiadau lles yn cael effaith sylweddol ar ddarparwyr a thenantiaid tai cymdeithasol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae'r newidiadau a wnaed i fudd-daliadau tai, a gafodd eu cyflwyno fel rhan o raglen diwygio lles Llywodraeth y DU, yn cael effaith sylweddol ar gynghorau, cymdeithasau tai a thenantiaid yng Nghymru.

Archwilydd Cyffredinol yn rhoi diweddariad ar ei rôl o ran Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Nod cyffredinol datganedig Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol arfaethedig Llywodraeth Cymru yw “sicrhau fod trefniadau llywodraethu cyrff cyhoeddus o ran gwella llesiant Cymru yn ystyried anghenion cenedlaethau’r dyfodol”.